Almaenwyr
Gwedd
(Ailgyfeiriwyd o Almaenwr)
| Enghraifft o: | cenedl, poblogaeth |
|---|---|
| Math | Ewropeaid Gorllewinol, preswylydd |
| Mamiaith | Almaeneg |
| Poblogaeth | 150,000,000 |
| Crefydd | Protestaniaeth, catholigiaeth |
| Yn cynnwys | Bafariaid, Swabiaid, Almaenwyr-Rwsiaidd, Ffranconiaid, Saxons, Americanwyr Almaenig, Alsatians |
| Enw brodorol | Deutsche |
| Gwladwriaeth | Yr Almaen, Awstria, Liechtenstein, Y Swistir |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/013xrm |
| Quora | German-ethnicity-and-people |
Pobl o'r Almaen yw Almaenwyr (Almaeneg: Deutsche), a grŵp ethnig yn y modd bod ganddynt ddisgyniaeth a diwylliant yn gyffredin, ac yn siarad yr iaith Almaeneg fel mamiaith. O fewn yr Almaen, caiff Almaenwyr eu diffinio gan ddinasyddiaeth Almaenig (Bundesdeutsche), oddi wrth bobl sydd â disgyniaeth Almaenig (Deutschstämmige). Yn hanesyddol, yng nghyd-destun Ymerodraeth yr Almaen (1871–1918), gwahaniaethwyd rhwng dinasyddion Almaenig (Reichsdeutsche) ac Almaenwyr ethnig (Volksdeutsche).

