Daearyddiaeth ddiwylliannol

Oddi ar Wicipedia

Is-faes o ddaearyddiaeth ddynol yw daearyddiaeth ddiwylliannol sy'n astudio'r effeithiau sydd gan ddiwylliant y ddynolryw ar y dirwedd, tirffurfiau, a nodweddion daearyddol eraill, ac sut mae unigolion a grwpiau yn creu a chanfod ystyr yn yr amgylchedd.

Nodweddir daearyddiaeth ddiwylliannol gan bum prif thema: diwylliant yn gyffredinol, ardal ddiwylliannol, tirwedd ddiwylliannol, hanes diwylliannol, ac ecoleg ddiwylliannol. Mae'n ystyried diwylliannau o bob oes ac ymhob rhan o'r byd, elfennau diwylliant megis arteffactau, traddodiadau, iaith, a chrefydd, cydberthynas ofodol y diwylliant a'r ddaear, dealltwriaeth bodau dynol o'u hamgylchedd a'r tirlun, gwasgariad bodau dynol a'u diwylliant dros amser, a'r holl gydberthnasau rhwng diwylliant a'r byd naturiol.

Er bod daearyddiaeth ddiwylliannol yn cwmpasu diwylliannau o bob math, mae materion ardaloedd trefol a gwledydd datblygedig yn amlach yn tynnu sylw ysgolheigion daearyddiaeth gymdeithasol. Maes hwnnw sy'n ystyried cwestiynau'r gymdeithas fodern gan gynnwys y wladwriaeth les ac anghydraddoldeb, a phatholegau cymdeithasol megis tor-cyfraith.

Hanes y ddisgyblaeth[golygu | golygu cod]

Ysgol Berkeley[golygu | golygu cod]

Mae hanes daearyddiaeth ddiwylliannol fel pwnc academaidd yn gysylltiedig â disgyblaethau tebyg megis daearyddiaeth ranbarthol a daearyddiaeth economaidd. Yn ôl nifer, y daearyddwr diwylliannol cyntaf oedd yr Americanwr Carl O. Sauer, a sefydlai ysgol feddwl newydd ym Mhrifysgol Califfornia, Berkeley, yn y 1920au, gan dynnu ar gysyniadau o anthropoleg, archaeoleg, a chymdeithaseg. Ysgol Berkeley, fel y'i gelwir, oedd yn flaenllaw mewn astudiaethau daearyddol-ddiwylliannol nes y 1950au, ac yn ddylanwadol hyd at y 1980au a thu hwnt. Megis syniadaeth Paul Vidal de La Blache a daearyddwyr eraill o ddechrau'r 20g, adwaith ydoedd yn erbyn penderfyniaeth amgylcheddol. Pwysleisiodd Sauer yr effaith sydd gan fodau dynol ar yr amgylchedd ac ecosystemau, gan roi'r enw "tirwedd ddiwylliannol" ar y dirwedd naturiol fel y mae wedi ei hadnewid gan weithgareddau dynol. Âi Sauer mor bell, hyd yn oed, ag i ddadlau taw diwylliant ydy'r peth pwysicaf sy'n siapio'r byd naturiol, a throdd ei sylw felly at amaeth, pensaernïaeth, ac arteffactau pob dydd a'r effeithiau sydd ganddynt ar brosesau biolegol a ffisegol o'u cwmpas.

Daearyddiaeth ddiwylliannol newydd[golygu | golygu cod]

Datblygodd syniadau newydd ynghylch daearyddiaeth ddiwylliannol yn y 1970au, er yr oedd Ysgol Berkeley yn parhau'n ddylanwadol. Y ddwy ideoleg a siapiodd y safbwyntiau hyn oed Marcsiaeth a dyneiddiaeth, a ymgeisiant mynd i'r afael â phroblemau cymdeithasol ac amgylcheddol y byd yn ail hanner yr 20g. Esboniadau achosol yw prif ddulliau'r Marcswyr a'r dyneiddwyr o drin y pwnc, yn hytrach na'r modelau mathemategol a ddefnyddir mewn ymchwil mesurol.

Rhoddir yr enw daearyddiaeth ddiwylliannol newydd ar ddatblygiadau'r ddisgyblaeth yn niwedd yr 20g.[1] Dechreuodd ysgolheigion feirniadu gwaith Sauer, yn bennaf ei ddealltwriaeth o ddiwylliant fel mecanwaith achosol, y tu hwnt i reolaeth unigolion. Yn ôl rhai, roedd Sauer yn ystyried diwylliant, ar ffurf traddodiadau a chyfundrefnau cymdeithasol, yn cyfyngu ar ymddygiad dynol yn hytrach na mynegiad ohono. Arddelai cysyniadaeth ddynamig o ddiwylliant gan y daearyddwyr diwylliannol newydd, un sy'n crybwyll holl weithgareddau a rhyngweithiadau'r ddynolryw ac yn cydnabod gwahanol ddiwylliannau sydd o bosib yn cystadlu yn erbyn ei gilydd. Ceisiodd yr ysgolheigion hyn gyfuno syniadau'r Marcswyr a'r dyneiddwyr,drwy ystyried mynegiant diwylliannol yn ogystal â strwythurau economaidd a chymdeithasol.

Un o feddylwyr astudiaethau diwylliannol a gafodd ddylanwad eang oedd y Marcsydd o Gymro Raymond Williams. Yn ôl ei ddiffiniad ef o ddiwylliant, mae gan wahanol grwpiau cymdeithasol ddiwylliannau eu hunain, a phob un yn meddu ar fydolwg unigryw. Yn anochel, byddai grwpiau yn cystadlu'n erbyn ei gilydd, y drefn a elwir hegemoni. Felly, mae sawl diwylliant yn bodoli ar y cyd, a rhai ohonynt yn drech ar eraill o ganlyniad i wahaniaethau yn nhermau grym gwleidyddol, economaidd, a chymdeithasol. Mae'r ddamcaniaeth hon yn ganolog i'r meddylfryd adain-chwith a ddatblygodd ymhlith nifer o ddaearyddwyr diwylliannol, a chafodd hefyd ddylanwad ar feddylfryd ehangach y maes, er enghraifft y berthynas anghyfartal rhwng y ddinas a chefn gwlad, pwnc y gwnai Williams ei ystyried yn nhermau llenyddiaeth yn ei waith The Country and the City.

Ers y 1980au, datblygai dwy ysgol feddwl o'r mudiad daearyddiaeth ddiwylliannol newydd sydd wedi ennill eu plwyf yn y ddisgyblaeth, sef Ysgol y Dirwedd ac Ysgol Gwleidyddiaeth Ddiwylliannol.

Ysgol y Dirwedd[golygu | golygu cod]

Yn ôl daearyddwyr diwylliannol Ysgol y Dirwedd, yn eu plith Denis Cosgrove a Stephen Daniels, ffenomen wleidyddol ydy'r dirwedd, ac nid diriaeth ffisegol yn unig. Dywed bod grwpiau cymdeithasol yn defnyddio'r tir fel cyfrwng gwelediad, ac yn ei siapio er mynegi ideoleg benodol. Er enghraifft, arferai'r tirfeddiannwr cyfoethog o Loegr yn y 18g a'r 19g gomisiynu paentiadau i wneud cofnod o ysblander ei blasty a chyflogi garddlunwyr i brydferthu tiroedd ei ystâd. Ystyrir tirluniau Constable a Turner ymhlith celf wychaf y Saeson, ac mae gerddi'r cynllunwyr enwog megis Capability Brown yn denu ymwelwyr hyd yr 21g. Roedd yr uchelwyr felly nid yn unig yn rheoli'r economi a'r system wleidyddol, ond hefyd yn rheoli'r ffordd y cynrychiolai'r dirwedd yn ddiwylliannol.

Ysgol Gwleidyddiaeth Ddiwylliannol[golygu | golygu cod]

Mae'r Ysgol Gwleidyddiaeth Ddiwylliannol yn ymwneud yn bennaf â phroses hegemoni a'r ystyr ddiwylliannol a roddir i'r tir. Yn hytrach na chanolbwyntio ar bortreadau diwylliannol, megis Ysgol y Dirwedd, mae'n ystyried arferion cymdeithasol rhwng gwahanol grwpiau. Yn ôl ysgolheigion yr ysgol feddwl hon, mae pob grŵp cymdeithasol yn meddu ar "fap ystyrlon" (map of meaning) neu "ddychymyg daearyddol" arbennig, sydd yn ffurfio bydolwg y grŵp hwnnw. Mae'r dychmygion hyn yn gallu gwrthdaro yn erbyn ei gilydd a siapio rhagfarnau ym meddyliau'r grwpiau, er enghraifft ystrydebau o fywyd dosbarth-canol y maestrefi neu fudreddi a thor-cyfraith canol y ddinas.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Marie Price a Martin Lewis. "The Reinvention of Cultural Geography", Annals of the Association of American Geographers 83, no. 1 (1993), tt. 1-17.