Cadwyn Bod

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Darlun o Gadwyn Bod yn Retorica Christiana gan Didacus Valdes (1579).

Cred sydd yn ymwneud â natur a threfn y bydysawd yw Cadwyn Bod sydd yn tarddu o'r neo-Platoniaid ac a oedd yn boblogaidd yn athroniaeth a diwinyddiaeth Gristnogol o'r Oesoed Canol hyd y 18g. Mae'n dal taw hierarchaeth ddwyfol sydd wedi pennu lle pob creadur mewn graddfa fawr yn ymestyn o'r uchaf i'r isaf.

Mae'r gred yn tarddu o'r neo-Platonydd Plotinus, ar sail syniadau Platon ac Aristoteles.