Brân dyddyn

Oddi ar Wicipedia
Brân Dyddyn
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Passeriformes
Teulu: Corvidae
Genws: Corvus
Rhywogaeth: C. corone
Enw deuenwol
Corvus corone
Linnaeus, 1758
Dosbarthiad y frân dyddyn
Corvus corone corone

Mae'r Frân dyddyn (Corvus corone) yn aelod o deulu'r brain. Mae un is-rywogaeth, C. c. corone yn nythu yng ngorllewin a chanol Ewrop ac is-rywogaeth arall, C. c. orientalis, yn nythu yn nwyrain Asia.

Gall fod yn anodd gwahaniaethu rheng y frân dyddyn ac aelodau eraill o deulu'r brain sydd hefyd yn ddu i gyd. Mae'n aderyn tipyn llai na'r Gigfran, 48 – 52 cm o hyd,ac mae pig y frân dyddyn yn deneuach na phig y Gigfran. Mae'r Ydfran yn fwy tebyg i'r frân dyddyn o ran maint, ond gellir gwahaniaethu'r oedolion gan fod darn moel heb blu arno o gwmpas y ffroenau yn yr Ydfran, tra mae'r plu yn dod yr holl ffordd at y pig yn y frân dyddyn. Yr adar ieuanc yw'r anoddaf i'w gwahaniaethu, gan fod pig Ydfran ieuanc yr un fath â'r frân dyddyn; y gwahaniaeth mwyaf defnyddiol yw fod gan yr Ydfran fwy o "dalcen". Mae'r Ydfran fel rheol yn fwy parod i ffurfio heidiau na'r Frân Dyddyn.

Mae'r frân dyddyn yn bwyta bron unrhyw beth sydd ar gael, yn cynnwys anifeiliaid wedi marw ac wyau adar eraill. Adeiledir y nyth mewn coed neu ambell dro ar glogwyni, gan ddodwy 4 - 5 wy.