Hugh Davies

Oddi ar Wicipedia
Hugh Davies
Ganwyd3 Ebrill 1739 Edit this on Wikidata
Llandyfrydog Edit this on Wikidata
Bu farw16 Chwefror 1821 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethbotanegydd, mwsoglegwr, cennegydd Edit this on Wikidata
Cofeb Hugh Davies yn Eglwys Biwmares

Roedd Hugh Davies (3 Ebrill 173916 Chwefror 1821) yn fotanegwr ac yn offeiriad Eglwys Lloegr. Brodor o Ynys Môn oedd o, ac yn awdur y llyfr Welsh Botanology, y llyfr gwyddonol cyntaf i restru enwau Cymraeg am blanhigion ag y rhai Lladin.

Bywyd[golygu | golygu cod]

Cafodd ei eni yn Llandyfrydog, Ynys Môn, Cymru, ac roedd ei dad yn rheithor Eglwys Tyfrydog, Llandyfrydog. Cafodd ei addysgu yn Ysgol David Hughes ym Meaumaris. Aeth ymlaen i Goleg yr Iesu yn Rhydychen fel ei dad o'i flaen. Graddiodd ym 1757 a daeth yn offeiriad. Wedi ei ordeinio, aeth yn gurad Llangefni (1763–1766), Llanfaes, Penmon (1766–1785) a Phenmynydd (1775–1778). Wedyn yn rheithor Llandegfan a Beaumaris ym 1778, ac wedyn yn rheithor Aber, Sir Gaernarfon ym 1787. Bu farw ym Meaumaris ym 1821 lle y'i claddwyd.

Botaneg[golygu | golygu cod]

Roedd Hugh Davies yn gyfaill Thomas Pennant ac anfonodd sbesimenau a nodiadau. Aeth i Ynys Manaw ym 1774 gyda Pennant, a dychwelodd i Fanaw y flwyddyn wedyn i astudio planhigion yr ynys. Cyfrannodd yn helaeth i lyfrau Pennant (British Zoology, Indian Zoology a Journey to Snowdon). Cyfrannodd hefyd i lyfr William Hudson Flora Anglica, ac English Botany gan James Sowerby a James Edward Smith, Flora Britannica gan Smith, a'r The Botanist's Guide through England and Wales gan Dawson Turner a'r Cymro Lewis Weston Dillwyn. Etholwyd ef yn Gymrawd y Linnean Society ym 1790, a chyhoeddwyd pedair erthygl yn ei gylchgrawn.

Daeth ei "opus magum" (gwaith gorau) Welsh Botanology ym 1813, a'i astudiaeth o Sir Fôn yn arbennig o werthfawr fel model o Fflora Sir.

Enwyd y genws Daviesia (Leguminosae), ar ei ôl gan Smith ym 1798.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • (Saesneg) Davies, Raymond B. (2004). "Davies, Hugh (1739–1821)". Oxford Dictionary of National Biography (arg. online). Gwasg Prifysgol Rhydychen. doi:10.1093/ref:odnb/7239.CS1 maint: ref=harv (link) (mae angen tanysgrifiad neu aelodaeth o lyfrgell gyhoeddus i ddarllen yr erthygl)
  • Thomas Pennant British Zoology 1766, Indian Zoology a Journey to Snowdon 1781.
  • Gwefan aber.ac.uk The "Ffungi" of Welsh Botanology, H. Davies 1813; adalwyd 24 Chwefror 2020.</ref>