Neidio i'r cynnwys

Gastroenteritis

Oddi ar Wicipedia
Gastroenteritis
Enghraifft o:dosbarth o glefyd, symptom neu arwydd Edit this on Wikidata
Mathclefyd y system gastroberfeddol, arwydd o'r treuliad, clefyd Edit this on Wikidata
SymptomauChwydu, dolur rhydd, cyfog, abdominal cramps edit this on wikidata
AchosRotavirus, campylobacter, norofeirws edit this on wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Llid y llwybr treuliad sy'n cynnwys y stumog a'r coluddyn bach yw gastroenteritis (neu lid y stumog a'r coluddyn neu ddolur rhydd heintus).[1] Mae ei symptomau'n cynnwys rhyw gyfuniad o ddolur rhydd, chwydu a phoen bol.[2] Gall fod twymyn, diffyg nerth a dadhydriad hefyd.[3][4] Bydd hyn yn parhau am lai na phythefnos.[1]

Firysau sy'n achosi'r rhan fwyaf o gastroenteritis[5] ond bacteria, parasitiaid a ffwng all fod yn gyfrifol hefyd.[3][5] Mewn plant, rotafirws yw'r achos mwyaf cyffredin o afiechyd difrifol;[6] mewn oedolion, norofirws a Champylobacter sy'n gyffredin.[7][8] Gellir ei ddal drwy fwyta bwyd heb ei baratoi'n gywir, drwy yfed dŵr budur neu drwy gyffyrddiad agos â rhywun arall â'r llid. Nid oes rhaid gwneud profion er mwyn cadarnhau diagnosis, fel afer.[3]

Gellir peidio â dal gastroenteritis drwy olchi'r dwylo â sebon, yfed dŵr glân, gwaredu gwastraff dynol yn gall a rhoi'r fron i fabanod yn hytrach na defnyddio llaeth fformiwla.[3] Argymhellir i blant gael brechiad rotafirws.[3][6] Mae'r driniaeth yn golygu cael digonedd o hylif. Mewn achosion ysgafn a chanolig, gwneir hyn fel arfer drwy yfed hydoddiant ailhydradu, sef cyfuniad o ddŵr, halen a siwgr. Mewn plant sy'n cael eu bwydo o'r fron, dylid parhau i roi'r fron iddynt. Mewn achosion difrifol, bydd angen rhoi hylifau mewnwythiennol neu "drip".[3] Gall claf gael yr hylifau i'r stumog trwy diwb trwy'r trwyn hefyd.[9] Dylai plant â'r haint gael sinc[3] ond nid oes angen gwrthfiotigau fel rheol.[10]

Credir bod rhyw dair i bum biliwn o achosion o gastroenteritis bob blwyddyn, a 1.4 miliwn o bobl yn marw o'i herwyd.[11][12] Mae'r mwyafrif o'r rhain mewn gwledydd sy'n datblygu.[13] Yn 2011, ymhlith plant dan bump oed, bu tua 1.7 biliwn o achosion a 0.7 miliwn o farwolaethau.[14] Mewn gwledydd sy'n datblygu, mae plant o dan ddwy yn cael chwe neu fwy o heintiau y flwyddyn.[15] Mae hyn yn llai cyffredin mewn oedolion, yn rhannol oherwydd datblygiad eu systemau imiwnedd.[16]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1.0 1.1 Schlossberg, David (2015). Clinical infectious disease (arg. Second). t. 334. ISBN 9781107038912.
  2. Singh, Amandeep (July 2010). "Pediatric Emergency Medicine Practice Acute Gastroenteritis — An Update". Emergency Medicine Practice 7 (7). http://www.ebmedicine.net/topics.php?paction=showTopic&topic_id=229.
  3. 3.0 3.1 3.2 3.3 3.4 3.5 3.6 Ciccarelli, S; Stolfi, I; Caramia, G (29 October 2013). "Management strategies in the treatment of neonatal and pediatric gastroenteritis.". Infection and drug resistance 6: 133–61. doi:10.2147/IDR.S12718. PMC 3815002. PMID 24194646. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=3815002.
  4. Ferri's Clinical Advisor 2015: 5 Books in 1. Elsevier Health Sciences. 2014. t. 479. ISBN 9780323084307.
  5. 5.0 5.1 A. Helms, Richard (2006). Textbook of therapeutics : drug and disease management (arg. 8.). Philadelphia, Pa. [u.a.]: Lippincott Williams & Wilkins. t. 2003. ISBN 9780781757348.
  6. 6.0 6.1 "2008 estimate of worldwide rotavirus-associated mortality in children younger than 5 years before the introduction of universal rotavirus vaccination programmes: a systematic review and meta-analysis". The Lancet Infectious Diseases 12 (2): 136–41. February 2012. doi:10.1016/S1473-3099(11)70253-5. PMID 22030330.
  7. "The dynamics of norovirus outbreak epidemics: recent insights". International Journal of Environmental Research and Public Health 8 (4): 1141–9. April 2011. doi:10.3390/ijerph8041141. PMC 3118882. PMID 21695033. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=3118882.
  8. Man SM (December 2011). "The clinical importance of emerging Campylobacter species". Nature Reviews Gastroenterology & Hepatology 8 (12): 669–85. doi:10.1038/nrgastro.2011.191. PMID 22025030.
  9. Webb, A; Starr, M (April 2005). "Acute gastroenteritis in children.". Australian family physician 34 (4): 227–31. PMID 15861741.
  10. Zollner-Schwetz, I; Krause, R (August 2015). "Therapy of acute gastroenteritis: role of antibiotics.". Clinical microbiology and infection : the official publication of the European Society of Clinical Microbiology and Infectious Diseases 21 (8): 744–9. doi:10.1016/j.cmi.2015.03.002. PMID 25769427.
  11. Elliott, EJ (6 January 2007). "Acute gastroenteritis in children.". BMJ (Clinical research ed.) 334 (7583): 35–40. doi:10.1136/bmj.39036.406169.80. PMC 1764079. PMID 17204802. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=1764079.
  12. Lozano, R (Dec 15, 2012). "Global and regional mortality from 235 causes of death for 20 age groups in 1990 and 2010: a systematic analysis for the Global Burden of Disease Study 2010.". Lancet 380 (9859): 2095–128. doi:10.1016/S0140-6736(12)61728-0. PMID 23245604.
  13. Webber, Roger (2009). Communicable disease epidemiology and control : a global perspective (arg. 3rd). Wallingford, Oxfordshire: Cabi. t. 79. ISBN 978-1-84593-504-7.
  14. Walker, CL; Rudan, I; Liu, L; Nair, H; Theodoratou, E; Bhutta, ZA; O'Brien, KL; Campbell, H et al. (Apr 20, 2013). "Global burden of childhood pneumonia and diarrhoea.". Lancet 381 (9875): 1405–16. doi:10.1016/S0140-6736(13)60222-6. PMID 23582727.
  15. Dolin, [edited by] Gerald L. Mandell, John E. Bennett, Raphael (2010). "93". Mandell, Douglas, and Bennett's principles and practice of infectious diseases (arg. 7th). Philadelphia, PA: Churchill Livingstone/Elsevier. ISBN 0-443-06839-9.CS1 maint: extra text: authors list (link)
  16. "Viral gastroenteritis in adults". Recent Patents on Anti-infective Drug Discovery 6 (1): 54–63. January 2011. doi:10.2174/157489111794407877. PMID 21210762.


Cyngor meddygol

Sgrifennir tudalennau Wicipedia ar bwnc iechyd er mwyn rhoi gwybodaeth sylfaenol, ond allen nhw ddim rhoi'r manylion sydd gan arbenigwyr i chi. Mae llawer o bobl yn cyfrannu gwybodaeth i Wicipedia. Er bod y mwyafrif ohonynt yn ceisio osgoi gwallau, nid ydynt i gyd yn arbenigwyr ac felly mae'n bosib bod peth o'r wybodaeth a gynhwysir ar y ddalen hon yn anghyflawn neu'n anghywir.

Am wybodaeth lawn neu driniaeth ar gyfer afiechyd, cysylltwch â'ch meddyg neu ag arbenigwr cymwys arall!