Glaswellteg

Oddi ar Wicipedia
Y botanegydd Mary Agnes Chase yn astudio samplau gwair, tua'r flwyddyn 1960.

Cangen o fotaneg sydd yn astudio glaswellt neu weiriau, sef planhigion y teulu Poaceae, yw glastwellteg[1] neu gweireg.[1] Weithiau cynhwysir ffug-weiriau teuluoedd yr hesg (Cyperaceae), y brwyn (Juncaceae), a chynffon y gath (Typhaceae) yn yr wyddor hon. Mae glaswellteg yn bwysig wrth gynnal a chadw glaswelltiroedd gwyllt a phorfeydd, tyfu cnydau megis reis, indrawn, cansen siwgr, a gwenith, garddwriaeth, cynhyrchu tyweirch, ecoleg, a chadwraeth.

Mae'n debyg taw'r Almaenwr Johann Scheuchzer a sefydlodd y maes pan gyhoeddodd ei draethawd ar dacsonomeg gweiriau, Agrostographiae Helveticae Prodromus, ym 1708.[2]

Ymhlith y botanegwyr sydd wedi cyfrannu at faes glaswellteg mae:

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 Geiriadur yr Academi, "agrostology".
  2. (Saesneg) Agrostology. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 31 Awst 2017.