Rhyg
Gwedd
| Rhyg | |
|---|---|
| Dosbarthiad gwyddonol | |
| Teyrnas: | Plantae |
| Ddim wedi'i restru: | Angiosbermau |
| Ddim wedi'i restru: | Monocotau |
| Ddim wedi'i restru: | Comelinidau |
| Urdd: | Poales |
| Teulu: | Poaceae |
| Is-deulu: | Pooideae |
| Llwyth: | Triticeae |
| Genws: | Secale |
| Rhywogaeth: | S. cereale |
| Enw deuenwol | |
| Secale cereale L. | |

Rhywogaeth o laswelltyn a dyfir ar gyfer y grawn yw Rhyg (Secale cereale). Mae'n aelod o deulu'r ŷd (Triticeae), ac yn perthyn yn agos i haidd a gwenith. Defnyddir y grawn ar gyfer blawd, bara, wisgi a fodca, ac fel bwyd anifeiliaid.
Daw rhyg yn wreiddiol o ganolbarth a dwyrain Twrci. Tyfir rhyg heddiw yn bennaf yng nghanolbarth a dwyrain Ewrop.
Prif gynhyrchwyr Rhyg
[golygu | golygu cod]| Prif gynhyrchwyr Rhyg 2005 (miliwn o dunnelli metrig) | |
|---|---|
| Rwsia | 3.6 |
| Gwlad Pwyl | 3.4 |
| Yr Almaen | 2.8 |
| Bwlgaria | 1.2 |
| Wcrain | 1.1 |
| China | 0.6 |
| Canada | 0.4 |
| Twrci | 0.3 |
| Unol Daleithiau | 0.2 |
| Awstralia | 0.2 |
| Cyfanswm | 13.3 |
| Ffynhonnell: FAO[1] | |