Nicholas Culpeper

Oddi ar Wicipedia
Nicholas Culpeper
Ysgythriad o Nicholas Culpeper gan Richard Gaywood o ganol yr 17g.
Ganwyd18 Hydref 1616 Edit this on Wikidata
Surrey Edit this on Wikidata
Bu farw10 Ionawr 1654 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethmeddyg, botanegydd, astroleg, fferyllydd Edit this on Wikidata
llofnod

Botanegwr, meddyg llysiau, a sêr-ddewin o Sais oedd Nicholas Culpeper (18 Hydref 161610 Ionawr 1654) sy'n nodedig am ei lysieulyfrau.

Ganed ef yn Surrey, ym mhentref Ockley mae'n debyg, a chafodd ei fagu yn Isfield, Sussex. Aeth i Brifysgol Caergrawnt ym 1632, ond wedi marwolaeth ei gariad ym 1634 gadawodd heb ennill ei radd. Aeth yn brentis i apothecari yn Llundain, ac ym 1639 dechreuodd weithio mewn siop gyffuriau Samuel Leadbetter. Yn Rhagfyr 1642, rhoddwyd Culpeper ar brawf, wedi ei gyhuddo o ddewiniaeth, a fe'i cafwyd yn ddieuog. Gweriniaethwr pybyr oedd Culpeper, ac ym 1643, yn ystod Rhyfel Cartref Cyntaf Lloegr, brwydrodd dros achos y Seneddwyr, a chafodd ei anafu yn ei frest gan belen fwsged.[1]

Sefydlodd Culpeper bractis ei hun yn ei gartref yn Spitalfields ym 1644. Ceisiodd dorri monopoli Coleg y Meddygon ar feddygaeth drwy gyfieithu'r cyffurlyfr swyddogol, y Pharmacopoeia, o Ladin i Saesneg, ac ychwanegu gwybodaeth a chyfarwyddiadau ei hun, dan y teitl A Physicall Directory; or, A Translation of the London Dispensatory (1649). Cyhoeddodd sawl argraffiad arall, a chyfieithiad o gyffurlyfr newydd Coleg y Meddygon ym 1653.

Ymhlith gweithiau meddygol eraill Culpeper, gan gynnwys traethodau sydd yn tynnu ar ei syniadau astrolegol, mae A Directory for Midwives (1651), Semiotica uranica (1651), ac Ephemeris (1651, 1653). Cyflawnodd sawl cyfieithiad arall o'r Lladin, gan gynnwys Treatise of the Rickets (1651), Galen's Art of Physick (1652), a The Anatomy of the Body of Man (1653). Ei gampwaith yw The English physitian' (1652), rhestr o lysiau rhinweddol brodorol gyda mynegai o afiechydon. Cyhoeddodd Culpeper hefyd ei broffwydoliaethau astrolegol yn y gyfrol Catastrophe magnatum (1652). Bu farw Nicholas Culpeper o dwbercwlosis yn 37 oed.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 (Saesneg) Patrick Curry, "Culpeper, Nicholas (1616–1654)", Oxford Dictionary of National Biography (2004).