Vinci
Gwedd
| Math | cymuned |
|---|---|
| Prifddinas | Vinci |
| Poblogaeth | 14,438 |
| Gefeilldref/i | Nusco |
| Nawddsant | Andreas |
| Iaith/Ieithoedd swyddogol | Eidaleg |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Dinas Fetropolitan Fflorens |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 54.19 km² |
| Uwch y môr | 97 ±1 metr |
| Yn ffinio gyda | Capraia e Limite, Carmignano, Cerreto Guidi, Empoli, Lamporecchio, Quarrata |
| Cyfesurynnau | 43.78333°N 10.91667°E |
| Cod post | 50059 |
| Swydd pennaeth y Llywodraeth | mayor of Vinci |
![]() | |

Tref fechan a chymuned (comune) yw Vinci a leolir yn nhalaith Firenze, yn rhanbarth Toscana yn yr Eidal. Poblogaeth: 14,354 (2007). Ganwyd yr artist ac athrylith amryddawn Leonardo da Vinci yn agos i'r dref a chymerodd yr enw da Vinci (Eidaleg: 'o Vinci') ohoni.
Gorwedd Vinci ym mryniau Toscana (Tuscany) yng nghanol caeau a pherllanau olewydd.
Ganed Leonardo da Vinci ar 15 Ebrill 1452 mewn ffermdy a adnabyddir heddiw fel Casa di Leonardo ('Tŷ Leonardo') tua 3 cilometr (1.9 milltir) o dref Vinci, rhwng Anchiano a Faltognano. Ei enw llawn oedd "Leonardo di ser Piero da Vinci", sy'n golygu "Leonardo, mab Piero, o Vinci", ond daeth pawb yw adnabod fel 'Lenoardo da Vinci'. Ceir amgueddfa amdano - y Museo Leonardiano - yn Vinci.
Dolen allanol
[golygu | golygu cod]- (Eidaleg) Gwefan Tref Vinci
