Persbectif

Oddi ar Wicipedia
Ffordd ger Llynnau Cregennen yn culhau gyda'r perspectif yn gwneud iddo ymddangos fel pe bai'n uno ac yn dod i ben.

Mewn celfyddyd graffig, mae persbectif (o'r Lladin: perspicere, "i weld trwy") yn gynrychiolaeth fras, fel arfer ar wyneb fflat (fel papur), o wrthrych fel ffordd, adeilad neu draciau rheilffordd, fel y gwelir ef gan y llygad. Ceir dwy nodwedd amlwg: yn gyntaf mae gwrthrychau sy'n bell i ffwrdd o'r llygad yn ymddangos yn llai; yn ail, mae dwy linell cyflin (cyfochrog) yn ymddangos fel pe taent yn dod fwyfwy at ei gilydd, y pellaf y maent o'r llygad.

Llun olew ffresco yn y Cappella Sistina, gan Pietro Perugino (1448–1523), lle mae'r perspectif i'w weld yn y llawr.

Astudiwyd perspectif mewn celf yn gyntaf gan arlunwyr a phensaeri Eidalaidd e.e. Filippo Brunelleschi, Masaccio, Paolo Uccello, Pietro Perugino, Piero della Francesca a Luca Pacioli.

O fewn perspectif lle ceir dau neu ragor o linellau syth, ceir un neu ragor o bwyntaiu lle daw'r llinellau cyflin at ei gilydd (yn ymddangosiadol felly), a elwir yn "ddiflanbwyntiau". Ceir hefyd "llinell orwel"[1] Ar adegau, fe'i ceir yn y llun, dro arall, fe'i cymrir yn ganiataol h.y. mae'r linell yn bodoli ym meddwl yr arlunydd ac yn ganllaw iddo wrth greu'r llun neu'r cynllun. Ar y linell hon, sydd ym mhellter eithaf y darlun, mae popeth yn eithriadol fach, bron nes ffurfio llinell neu orwel; fel y dywedodd y bardd Dewi Emrys (1881 – 1952) mewn englyn:

Hen linell bell nad yw'n bod,
Hen derfyn nad yw'n darfod.

Mathau o ddiflanbwyntiau[golygu | golygu cod]

un-diflanbwynt

Mewn llun lle ceir un-difanbwynt, fe'i lleolir yn aml, ond nid o hyd, gyferbyn a llygad y person sy'n edrych ar y llun.

dau-ddiflanbwynt

Yma, ceir dau mae'r llinellau yn gyflin i dau ongl wahanol. Mae unrhyw nifer o bwyntiau'n bosibl.

Yma, ceir dau-ddyflanbwynt wedi'u lleoli ar y linell-orwel e.e. dwy ffordd yn 'diflannu' i'r pellter neu adeilad wedi'i weld o'r gornel, gyda llinellau un ochr yn diflannu i ochr chwith y llun a llinellau'r wal arall yn 'diflannu' i ochr dde'r llun.

tri-diflanbwynt
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. geiriadur.bangor.ac.uk; Y Termiadur Addysg - Celf a Dylunio, Ffiseg a Mathemateg; adalwyd 26 Rhagfyr 2018.