Hieronymus Bosch

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Hieronymus Bosch
Jheronimus Bosch (cropped).jpg
Ganwyd 1450 Edit this on Wikidata
's-Hertogenbosch Edit this on Wikidata
Bu farw Awst 1516 Edit this on Wikidata (66 oed)
's-Hertogenbosch Edit this on Wikidata
Galwedigaeth arlunydd, drafftsmon Edit this on Wikidata
Gwaith nodedig The Torture Garden, Ship of Fools, Ecce Homo, The Seven Deadly Sins and the Four Last Things, The Last Judgment, The Marriage Feast at Cana, The Haywain Triptych, Visions of the Hereafter, The Conjurer Edit this on Wikidata
Tad Anthonis van Aken Edit this on Wikidata
Teulu Goessen van Aken Edit this on Wikidata
Llofnod
Bosch-signature.svg
Cerflun o Hieronymus Bosch (gan August Falise), 's-Hertogenbosch

Arlunydd Iseldiraidd cynnar oedd Hieronymus Bosch (ganed Jeroen Anthoniszoon van Aken c. 14509 Awst 1516). Mae ei waith yn enwog am ei ddefnydd o ddelweddau ffantasi er mwyn darlunio cysyniadau a naratifau moesol a chrefyddol.[1]

Mae'r enw Bosch yn dod o'r dref ble y ganwyd a threuliodd y rhan mwyaf o'i fywyd – 's-Hertogenbosch (rhwng Rotterdam ac Eindhoven) a elwir yn Den Bosch ar lafur. Heddiw yn y dref mae cerflun ac amgueddfa iddo.

Gwaith enwocaf Hieronymus Bosch yw Gardd y Pleserau Daearol, sy'n darlunio'n alegorïaidd pleserau'r cnawd. Cafodd ei baentio ar ddechrau'r 16g (tua 1503-05 efallai). Mae ar gadw yn amgueddfa Museo del Prado, Madrid.

Bywyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Ychydig iawn o wybodaeth sydd am fywyd neu hyfforddiant artistig Bosch. Ni adawodd lythyron neu ddyddiaduron, mae'r hyn sydd amdano yn dod o gofnodion 's-Hertogenbosch a llyfrau cofnodion Brawdoliaeth y Forwyn Fair Fendigaid a fu'n sefydliad Cristnogol pwysig yn y dref. Amcangyfrif ei dyddiad geni'n dua 1450 ar sail portread ohono (gall fod yn hunanbortread) a wnaethpwyd cyn ei farwolaeth ym 1515. Mae'r darlun yn ei ddangos yn ei henaint, mwy na thebyg tua 60 oed.[2]

Roedd ei daid Jan van Aken hefyd yn beintiwr a sonnir amdano am y tro cyntaf mewn cofnodion ym 1430. Cafodd Jan bump o feibion, bedwar ohonynt hefyd yn beintwyr. Roedd ei dad, Anthonius van Aken (marw tua 1478), yn gynghorydd artistig i Frawdoliaeth y Forwyn Fair Fendigaid.[3]

Cymerir bod ei dad neu un o'i ewythr a dysgodd i beintio [4] Mae Bosch yn ymddangos cyntaf ar gofnodon dinesig ar 5 Ebrill, 1474, ble a enwir gyda dau frawd a chwaer.

Roedd 's-Hertogenbosch yn dref lewyrchus yn y 15g ond ym 1463 fe losgwyd 4,000 o dai mewn tân trychinebus pan roedd Bosch tua 13 oed a mwy na thebyg yn dyst i'r digwyddiad erchyll.

Daeth yn beintiwr poblogaidd yn ystod ei fywyd gan dderbyn comisiynau o wledydd tramor. Ym 1488 ymunodd a'r Brawdoliaeth y Forwyn Fair Fendigaid, sefydliad Cristionogol Ceidwadol gyda rhyw 40 o aelodau ymhlith dinasyddion uchel eu parch 's-Hertogenbosch a rhyw o 7,000 aelodau eraill trwy Ewrop cyfan.

Rhywbryd rhwng 1479 a 1481, priododd Bosch Aleyt Goyaerts van den Meerveen, a oedd ychydig o flynyddoedd yn hŷn. Symudodd y cwpl i'r dref gyfagos Oirschot ble roedd ei wraig wedi etifeddu tŷ a thiriodd o'i theulu cyfoethog.[5]

Mae cofnod yn archifau'r Brawdoliaeth yn nodi marwolaeth Bosch ym 1516.[6]

Celf[golygu | golygu cod y dudalen]

Cynhyrchodd Bosch sawl triptych (darlun tri phanel). Yn cynnwys ei enwocaf Gardd y Pleserau Daearol (y teitl gwreiddiol yn anhysbys). Mae'r darlun, yn dangos paradwys gydag Adda ac Efa a llawer o anifeiliaid anhygoel ar y panel chwith, pleserau'r ddaear gyda phobl noeth, ffrwythau ac adar yn y panel canol, ac wedyn uffern ar y panel chwith gyda delweddau o gosbau erchyll i fathau gwahanol o bechaduriaid.

Wrth edrych yn nes ar y paneli, gwelir Duw yn creu'r ddaear. Mae'r darluniau – yn arbennig panel uffern – yn cael ei darlunio'n weddol rydd, yn wahanol iawn i arddull peintio Fflandrys y cyfnod.[7]

Ni roddodd Bosch y dyddiad ar ei beintiadau. Ond yn anarferol am y cyfnod fe lofnododd nifer ohonynt (er bod amheuaeth ar sawl llun arall sydd yn ymddangos i gynnwys ei lofnod). Mae llai na 25 o beintiadau sydd wedi'u goroesi a gydnabyddir yn bendant i Bosch. Ar ddiwedd y 16g ddaeth nifer o ddarluniau Bosch i feddiant Felipe II, brenin Sbaen, fel canlyniad mae amgueddfa Museo del Prado ym Madrid bellach yn berchen a Gardd y Pleserau Daearol, Addoliad y Doethion, Y Saith Pechod Marwol a'r Pedwar Peth Olaf, Tynnu Carreg Wallgofrwydd (Gwellhad i Ffolineb).

Dadansoddiadau[golygu | golygu cod y dudalen]

yn yr 20g, bu diddordeb newydd yn Bosch a chynigwyd amryw o ddadansoddiadau ar gyfer ei luniau. Rhai yn dadlau bod ei waith wedi'i ysbrydoli gan syniadaeth 'hereticaidd' (e.e. syniadau'r Cathariaid a oedd yn grefydd Gristionogol y canol oesoedd a welwyd yn 'hereticaidd' gan yr Eglwys Gatholig). Eraill yn dadlau bod pobl tref 's-Hertogenbosch yn yr adeg honno, er yn ffyddlon i'r Eglwys Gatholig, yn wrthwynebau’n gryf dogmatiaeth, llygredigaeth a grym yr offeiriaid. Astudiodd y llenor Erasmus yn 's-Hertogenbosch ac mae rhai wedi tynnu cymhariaeth rhwng ei feirniadaeth o lygredigaeth yr eglwys a gwaith Bosch.[8]

Nith y Dylluan. Rotterdam, Museum Boijmans Van Beuningen

Mae eraill yn dadlau roedd gwaith Bosch yn adloniant, yn diddanu'r gynulleidfa gyd bwystfilod a ffantasi.[9] Tra bod damcaniaeth arall yn credu nad oedd gwaith Bosch yn ffantasi i bobl ei oes, gan adlewyrchu syniadau cyffredin o foesoldeb y byd, nefoedd ac uffern y cyfnod.

Llofnod Bosch wedi'i sillafu Jheronimǔs boſch o'r triptych Y Santau Meudwy

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Catherine B. Scallen, The Art of the Northern Renaissance (Chantilly: The Teaching Company, 2007) Lecture 26
  2. Gibson, 15-16
  3. Gibson, 15, 17
  4. Gibson, 19
  5. Valery, Paul. "The Phase of Doubt, A Critical Reflection".
  6. Gibson, 18
  7. [1]'Bosch and the Delights of Hell'
  8. The Secret Life of Paintings Richard Foster & Pamela Tudor-Craig ISBN 0-85115-439-5
  9. Gibson, 9
  • Bax, Dirk. (1949), “Ontcijfering van Jeroen Bosch”. Den Haag.
  • Boulboullé, Guido, (2008), "Groteske Angst. Die Höllenphantasien des Hieronymus Bosch". In: Auffarth, Christoph, and Kerth, Sonja (Eds): "Glaubensstreit und Gelächter: Reformation und Lachkultur im Mittelalter und in der Frühen Neuzeit", LIT Verlag Berlin, pp. 55–78.
  • Dijck, G.C.M. van (2001). “Op zoek naar Jheronimus van Aken alias Bosch. De feiten. Familie, vrienden en opdrachtgevers”. Zaltbommel: Europese Bibliotheek. ISBN 90-288-2687-4
  • Fischer, Stefan. "Hieronymus Bosch. The Complete Works", Cologne 2013.
  • Gibson, Walter S (1973). “Hieronymus Bosch”. New York: Thames and Hudson. ISBN 0-500-20134-X
  • Koldeweij, Jos & Bernard Vermet & Barbera van Kooij: Hieronymus Bosch. New Insights Into His Life and Work, NAi Publishers, Rotterdam 2001. ISBN 90-5662-214-5
  • Marijnissen, Roger H. ([1987]). “Hiëronymus Bosch. Het volledige oeuvre”. Haarlem: Gottmer/Brecht. ISBN 90-230-0651-8
  • Pokorny, Erwin (2010), "Hieronymus Bosch und das Paradies der Wollust". In: "Frühneuzeit-Info", Jg. 21, Heft 1+2 (Sonderband „Die Sieben Todsünden in der Frühen Neuzeit“), pp. 22–34.

Dolennau allanol[golygu | golygu cod y dudalen]

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: