Neidio i'r cynnwys

Gardd y Pleserau Daearol

Oddi ar Wicipedia
Gardd y Pleserau Daearol
Enghraifft o:paentiad, triptych Edit this on Wikidata
CrëwrHieronymus Bosch Edit this on Wikidata
Deunyddpaent olew, panel Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu15 g Edit this on Wikidata
Genrecelfyddyd grefyddol Edit this on Wikidata
LleoliadAmgueddfa'r Prado Edit this on Wikidata
PerchennogHenry III of Nassau-Breda, René of Chalon, Wiliam I, Tywysog Orange, Felipe II, brenin Sbaen, Fernando Álvarez de Toledo, 3rd Duke of Alba, El Escorial Edit this on Wikidata
Statws hawlfraintparth cyhoeddus Edit this on Wikidata
Dynodwyr
Freebase/M/05fpzk edit this on wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Gardd y Pleserau Daearol
Gardd y Pleserau Daearol: manylyn o'r panel canol.

Paentiad gan Hieronymous Bosch (1450-1516) yw Gardd y Pleserau Daearol, sy'n darlunio'n alegorïaidd pleserau'r cnawd. Cafodd ei baentio ar ddechrau'r 16g (tua 1503-05 efallai). Mae ar gadw yn y Museo del Prado, Madrid.

Mae'n baentiad olew ar bren sy'n mesur 220 × 389 cm (86.61 × 153.15 modfedd). Rhennir y paentiad dros dri darn, sef paneli triptych. Mae'r ddau banel allanol yn baentiedig ar y cefn ac yn cau dros y canol.

Hanes ei feddiant

[golygu | golygu cod]

Dynoda (?) fod y rhan yma o'i hanes yn ansicr.

  • erbyn 1517: Harri III, Cownt Nassau (?)
  • 1538: etifeddwyd gan William I, Tywysog Orange (?)
  • 1568: cymerwyd gan Fernando Álvarez de Toledo, 3ydd Dug Alba (?)
  • Dyddiad ansicr: cafwyd gan Don Fernando (?)
  • 1591: prynwyd gan Felipe II, brenin Sbaen (?)
  • 1593: trosglwyddwyd i'r Monasterio de El Escorial
  • 1939: trosglwyddwyd i'r Museo del Prado o'r Escorial