Cathariaid

Oddi ar Wicipedia
Cathariaid yn cael eu gyrru o ddinas Carcassonne yn 1209

Mudiad crefyddol yn ne Ffrainc yn niwedd y Canol Oesoedd oedd y Cathariaid, a elwid hefyd yr Albigensiaid ar ôl dinas Albi. Roedd rhai dilynwyr yng ngorllewin yr Almaen hefyd.

Ystyriai'r Cathariaid eu hunain fel y wir eglwys Gristionogol, tra ystyriai'r Eglwys Gatholig hwy yn hereticiaid. Dilynent athrawiaeth deuoliaeth, ac roeddynt yn gwrthod yr Hen Destament, gan ystyried mai creawdwr y byd materol drygionus, y Demiurge, oedd Duw yr Hen Destament.

Yn 1145, gyrwyd Bernard o Clairvaux i dde Ffrainc i geisio perswadio'r Cathariaid i ddychwelyd at yr Eglwys Gatholig, ond heb lwyddiant. Penderfynodd Pab Innocentius III ddefnyddio grym arfog yn eu herbyn, a ffurfiodd fyddin yn 1209 gyda chefnogaeth Ffylip II, Brenin Ffrainc. Llwyddodd y fyddin, yn wreiddiol dan Arnaud-Amaury, abad Citaux, yma dan Simon de Montfort, i orchfygu'r Cathariaid, gan gipio dinas Toulouse oddi arnynt yn 1215. Fodd bynnag, llwyddodd y Cathariaid i ad-ennill llawer o'u grym yn y blynyddoedd dilynol. Bu ymgyrch arall yn eu herbyn yn 1243, a syrthiodd eu prif gaer, y Château de Montségur, y flwyddyn wedyn. Llosgwyd 215 o'r parfaits fel hereticiaid. Gyda hyn, daeth grym y Cathariaid i ben, er i'r mudiad ei hun barhau am gyfnod; yr olaf o'r parfaits i'w losgi oedd Guillaume Bélibaste yn 1321 yn Villerouge-Termenès.