De Georgia ac Ynysoedd Sandwich y De
Gwedd
| Arwyddair | Leo Terram Propriam Protegat |
|---|---|
| Math | Tiriogaethau tramor y Deyrnas Unedig, tiriogaeth ddadleuol |
| Prifddinas | King Edward Point |
| Poblogaeth | 35 |
| Anthem | God Save the King |
| Pennaeth llywodraeth | Nigel Haywood |
| Cylchfa amser | UTC−02:00 |
| Iaith/Ieithoedd swyddogol | Saesneg |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Tiriogaethau tramor y Deyrnas Unedig |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 4,066 km² |
| Cyfesurynnau | 54.25°S 36.75°W |
| Pennaeth y Llywodraeth | Nigel Haywood |
![]() | |
| Arian | punt sterling |
Tiriogaeth dramor y Deyrnas Unedig yn ne Cefnfor Iwerydd yw De Georgia ac Ynysoedd Sandwich y De (South Georgia and the South Sandwich Islands). Mae'r diriogaeth yn cynnwys ynys fawr De Georgia ynghyd â chadwyn o ynysoedd llai, Ynysoedd Sandwich y De, tua 520 km i'r de-ddwyrain. Mae gan yr ynysoedd fynyddoedd serth a llawer o rewlifau.[1] Mae ganddynt boblogaethau mawr o adar a morloi.[1]
Ymwelodd James Cook â'r ynysoedd ym 1775.[2] Dros y ddwy ganrif ganlynol, daeth yr ynysoedd yn ganolfan bwysig i hela morloi a morfilod.[2] Heddiw, mae gan Dde Georgia ddwy orsaf ymchwil ac amgueddfa.[2]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 CIA World Factbook (2012) South Georgia and the South Sandwich Islands Archifwyd 2015-08-13 yn y Peiriant Wayback. Adalwyd 25 Medi 2012.
- ↑ 2.0 2.1 2.2 South Georgia Heritage Trust (2010) History Archifwyd 2012-10-02 yn y Peiriant Wayback. Adalwyd 25 Medi 2012.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Gwefan Llywodraeth De Georgia Archifwyd 2013-10-31 yn y Peiriant Wayback
| |||||||||||
