Loch Ness
Gwedd
| Math | llyn |
|---|---|
| Daearyddiaeth | |
| Rhan o'r canlynol | Caledonian Canal |
| Sir | Cyngor yr Ucheldir |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 56.4 km² |
| Uwch y môr | 16 metr |
| Cyfesurynnau | 57.3°N 4.45°W |
| Cod OS | NH515245 |
| Dalgylch | 1,775 cilometr sgwâr |
| Hyd | 39 cilometr |
| Cadwyn fynydd | Ucheldiroedd yr Alban |
![]() | |
Llyn yn Ucheldiroedd yr Alban i'r de-orllewin o Inverness yw Loch Ness (Gaeleg yr Alban: Loch Nis).
O ran arwynebedd, Loch Ness yw'r llyn ail-fwyaf yn yr Alban ar ôl Loch Lomond, ond mae'n cynnwys llawer mwy o ddŵr na Loch Lomond gan ei fod yn eithriadol o ddwfn, 230 medr (754 troedfedd) yn y man dyfnaf. Dim ond Loch Morar sy'n ddyfnach yn yr Alban. Mae'n cynnwys mwy o ddŵr na phob llyn yng Nghymru a Lloger gyda'i gilydd.
Dim ond un ynys sydd ar Loch Ness, Cherry Island, yn rhan dde-orllewinol y llyn ger Fort Augustus, a crannog, ynys wedi ei hadeiladu, yw honno.
Daeth Loch Ness yn enwog fel preswylfan dybiedig Anghenfil Loch Ness, a cheir arddangosfa yn Drumnadrochit ar yr hanes.

