Loch Morar
Gwedd
Math | llyn |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Cyngor yr Ucheldir |
Gwlad | Yr Alban |
Arwynebedd | 26.7 km² |
Uwch y môr | 10 metr |
Cyfesurynnau | 56.95°N 5.6722°W |
Cod OS | NM775905 |
Hyd | 19 cilometr |
Statws treftadaeth | Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig |
Manylion | |
Llyn yn Morar, Lochaber, yn Ucheldiroedd yr Alban yw Loch Motar (Gaeleg yr Alban: Loch Mhòrair). Loch Morar yw'r dyfnaf o lynnoedd yr Alban, 310 metr (1,017 troedfedd) yn y man dyfnaf. Gydag arwynebedd o 26.7 cilometr sgwâr (10.37 milltir sgwar), saif yn bumed ymhlith llynnoedd yr Alban. Ceir pum ynys yn y llyn, sydd tua 19 km o hyd.
Yr unig ffordd ger Loch Morar yw'r un sy'n arwain am tua pedair milltir ar hyd y lan ogleddol. Tenau yw'r boblogaeth o'i gwmpas bellach, ac mae'r ardal yn un anghysbell. Cyn diboblogi'r Ucheldiroedd. roedd poblogaeth sylweddol yma.