Gwyniad
Gwedd
| Gwyniad | |
|---|---|
| Dosbarthiad gwyddonol | |
| Teyrnas: | Animalia |
| Ffylwm: | Chordata |
| Dosbarth: | |
| Urdd: | Salmoniformes |
| Teulu: | Salmonidae |
| Genws: | Coregonus |
| Rhywogaeth: | C. pennantii |
| Enw deuenwol | |
| Coregonus pennantii Valenciennes, 1848 | |
| Cyfystyron | |
|
Coregonus lavaretus pennantii | |
Rhywogaeth o bysgodyn dŵr croyw o deulu'r Salmonidae (neu'r eog) yw'r Gwyniad (Coregonus pennantii). Fe'i ceir yn Llyn Tegid yng Nghymru yn unig. Cred rhai fod y Gwyniad yn is-rywogaeth o Coregonus lavaretus a geir mewn rhai rhannau o Ewrop, yn enwedig Rwsia.
Treulia'r Gwyniad y rhan fwyaf o'i amser mewn dwfr dwfn, a dim ond pan maent yn dodwy eu wyau y maent yn dod i ddŵr bas yn agos i'r lan. Mynegwyd pryder am ddyfodol y rhywogaeth yn y blynyddoedd diwethaf, oherwydd diffyg ocsigen yn nyfroedd dyfnaf y llyn a ffactorau eraill. Yn 2003 dechreuwyd cynllun i ddal y pysgod pan font yn barod i ddodwy eu wyau a chymeryd yr wyau i safle arall, lle gobeithir sefydlu poblogaeth newydd.