Afon Twrch (Dyfrdwy)
Gwedd
Math | afon |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.838659°N 3.661707°W |
Afon ym Mhenllyn, de Gwynedd, sy'n llifo i mewn i afon Dyfrdwy, yw Afon Twrch.
Mae'n tarddu ar lethrau deheuol rhwng llethrau gorllewinol Foel Rhudd, i'r dwyrain o Aran Benllyn. Wedi llifo tua'r de am ychydig, mae'n troi tua'r gogledd-orllewin a llifo ar hyd Cwm Cynllwyd. Mae'n llifo trwy benref Llanuwchllyn, ac yn ymuno ag afon Dyfrdwy ychydig i'r gogledd, rhyw hanner milltir cyn i afon Dyfrdwy gyrraedd Llyn Tegid.