Dduallt
Math | mynydd, copa |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 662 metr |
Cyfesurynnau | 52.8302°N 3.7658°W |
Cod OS | SH810273 |
Manylion | |
Amlygrwydd | 138 metr |
Rhiant gopa | Rhobell Fawr |
Cadwyn fynydd | Eryri |
Mynydd yn ne Gwynedd yw'r Dduallt (Cyfeirnod OS: SH810273). Saif i'r dwyrain o gopa uwch Rhobell Fawr, i'r de-orllewin o bentref Llanuwchllyn ac i'r gogledd o'r briffordd A494 rhwng Dolgellau a Llanuwchllyn. Ar ei lethrau dwyreiniol, ceir tarddle afon Dyfrdwy. Ei uchder yw 662 metr: cyfeiriad grid SH810273. Uchder cymharol, neu ”amlygrwydd” y copa, ydy 524 metr: dyma'r uchder mae'r copa'n codi uwchlaw'r mynydd agosaf.
Gellir ei ddringo ar hyd llwybrau o bentrefi Rhydymain neu Llanfachreth, fel rheol fel rhan o daith sy'n cynnwys copa Rhobell Fawr hefyd.
Dosberthir copaon Cymru, a gweddill gwledydd Prydain, yn rhestri arbennig yn ôl uchder ac yn ôl amlygrwydd y copa; mae'r copa hwn yn cael ei alw'n Hewitt, Nuttall a HuMP. Mae sawl cymdeithas yn mesur, gwiro a chasglu'r rhestri hyn a dônt ynghŷd ar wefan “Database of British and Irish hills”.[1] Uchder y copa o lefel y môr ydy 662 m (2172tr). Cafodd yr uchder ei fesur a'i gadarnhau ar 20 Tachwedd 2009.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]- Rhestri copaon a sut y cânt eu dosbarthu
- Rhestr mynyddoedd Cymru
- Rhestr o Gopaon Cymru
- Rhestr Mynyddoedd yr Alban dros 2,000'
Dolennau allanol
[golygu | golygu cod]- Clwb Mynydda Cymru
- Lleoliad ar wefan Streetmap Archifwyd 2016-03-05 yn y Peiriant Wayback
- Lleoliad ar wefan Get-a-map[dolen farw]
- Ffotograffau o'r mynydd a'r cyffiniau ar wefan geograph.co.uk.