Sgwrs:Afon Dyfrdwy

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Mae angen cywiro'r enw i Afon Ddyfrdwy (treiglad). Diolch. (193.62.43.1)

Diolch am eich sylwadau, ond mae Afon Dyfrdwy (heb dreiglad) yn safonol, er bod rhai yn ei sgwennu gyda'r treiglad hefyd, fel Afon Ddyfrdwy). Y ffurf heb dreiglad sydd gan Dafydd Orwig ac eraill ar eu map o Gymru yn y Gymraeg (Cyhoeddiadau Stad) er enghraifft, a llawer o ffynonellau Cymraeg eraill y gellir eu derbyn fel rhai safonol, e.e. cyfrol T. I. Ellis, Crwydro Meirionnydd. Diolch i chwi unwaith eto am eich cyfraniadau. Anatiomaros 14:58, 21 Hydref 2008 (UTC)[ateb]