Traphont Pontcysyllte

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Traphont Pontcysyllte
Pontcysyllte aqueduct arp.jpg
Math dyfrbont fordwyol Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynol Camlas Llangollen Edit this on Wikidata
Sir Wrecsam Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Cyfesurynnau 52.9702°N 3.08782°W Edit this on Wikidata
Manylion
Statws treftadaeth adeilad rhestredig Gradd I Edit this on Wikidata
Deunydd Bricsen, Haearn bwrw Edit this on Wikidata

Mae Pontcysyllte yn draphont i gychod, sy'n dwyn Camlas Llangollen dros ddyffryn Afon Dyfrdwy rhwng pentrefi Trefor a Froncysyllte, i'r dwyrain o Langollen. Cwblhawyd adeiladu'r bont yn 1805, ond hyd heddiw, hon yw'r draphont ddwr hiraf ac uchaf ym Mhrydain, ac mae'n adeiladwaith sydd wedi ei restru ar Raddfa I Adeiladau Rhestredig.[1] Yn ogystal mae'n un o Safleoedd Treftadaeth y Byd Cymru.

Afon Dyfrdwy yn llifo dan y draphont
Y draphont yn y niwl

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Adeiladwyd y ddyfrbont gan Thomas Telford a William Jessop, mae'n 1,007 troedfedd o hyd, 11 troedfedd o led a 5 troedfedd 3 modfedd o ddyfnder. Mae wedi ei wneud o gafn haearn bwrw wedi ei ddal 126 troedfedd uwchben yr afon gan 19 colofn o waith maen gwag. Mae gan bob bwa rychwant o 53 troedfedd. Roedd llawer yn amheus o'r adeiladwaith, ond roedd Telford yn hyderus: roedd wedi adeiladu o leiaf un draphont i'r cynllun hwn ynghynt (sef Traphont Longdon-on-Tern) ar Gamlas Amwythig, sydd yn dal i'w gweld yno heddiw yng nghanol cae, er y gadawyd y gamlas flynyddoedd yn ôl.

Mae'r cymrwd a ddefnyddwyd i'w hadeiladu yn cynnwys calch, dŵr a gwaed ych. Cynhyrchwyd y taflau haearn yn Ffowndri Plas Kynaston, a thaflwyd pob uniad cynffonnog i mewn i'r nesaf. I galchu'r cymalau, defnyddwyd gwlân Cymreig wedi ei drochi mewn siwgr berwedig, ac wedyn eu selio â phlwm. Gadawyd ef am chwe mis i gadarnhau ei fod yn dal dŵr cyn cael ei ddefnyddio.

Yn rhan o gamlas a elwid yn wreiddiol yn Camlas Ellesmere, roedd yn un o'r campweithiau peirianneg sifil cyntaf a gyflawnwyd gan y peiriannwr sifil enwog Thomas Telford (dan oruchwyliaeth y peiriannwr camlesi mwy profiadol, William Jessop). Cyflenwyd yr haearn gan William Hazeldine o'i ffowndri yn Amwythig a gerllaw yng Nghefn Mawr. Agorwyd y ddyfrbont ar 26 Tachwedd 1805, ar ôl cymryd tua deng mlynedd a £47,000 i'w dylunio a'i hadeiladu.

Traphont Pontcysyllte Sir Wrecsam 03.JPG

Mae'r llwybr halio wedi ei gydbwyso dros y cafn, sydd yr un lled â'r draphont i alluogi i gychod cul symud yn fwy rhydd dros y dŵr. Mae rheiliau i warchod cerddwyr ar ochr allanol y llwybr, ond ni ddefnyddiwyd y tyllau ar gyfer rheiliau ar ochr arall y llwybr. Gan mai dim ond chwe modfedd uwchben y dŵr y mae ymyl y cafn, a'i fod felly o dan fwrdd y cychod, does dim byd rhwng gyrrwr y cwch a chwymp anferthol i waelod y dyffryn.

Roedd handlen hygyrch yn arfer bod mewn cwt ar y llwybr troed yng nghanol y bwa canolog; wrth dynnu'r handlen hon achosid i ddŵr dasgu i lawr i'r afon islaw. Gwelir y tasgiad o hyd bob cwpl o flynyddoedd pan wagir y draphont er mwynt ei chynnal.

Statws[golygu | golygu cod y dudalen]

Cynigiwyd y draphont fel cystadleuydd ar gyfer statws Safle Treftadaeth y Byd yn 2005, ar ei dau ganmlwyddiant,[2] ac fe'i henwebwyd yn swyddogol yn 2006.[3] Ar 28 Mehefin 2009 rhoddwyd statws Safle Treftadaeth y Byd i'r bont, ynghyd â 11 milltir (18 km) o'r gamlas, gan bwyllgor UNESCO ym Madrid.[4]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. "Adeiladau Rhestredig: Dyfrffos Pont Cysyllte, Trefor", Cyngor Bwrdeisdref Wrecsam, 25 Mai 2007
  2. Teitl: Aqueduct's big bicentenary party Cyhoeddwyr: BBC News Dyddiad: 27 Tachwedd 2005
  3. Teitl: Aqueduct set for heritage status Cyhoeddwyr: BBC News Dyddiad: 10 Hydref 2006
  4. "Pontcysyllte Aqueduct and Canal". UNESCO World Heritage Centre. UNESCO. Cyrchwyd 31 Mai 2019.