Eleanor Butler a Sarah Ponsonby
Dwy ferch oedd Eleanor Butler a Sarah Ponsonby, a adnabyddir yn Saesneg fel The Ladies of Llangollen. Gwyddelod oeddent o ran tras ac maen nhw'n enwog oherwydd eu cyfeillgarwch rhamantus.
Eleanor Charlotte Butler (11 Mai 1739 – 2 Mehefin 1829): daeth Eleanor o deulu Castell Kilkenny ac roedd yn ferch academaidd iawn ar ôl cyfnod helaeth mewn lleiandy yn Ffrainc. Roedd ei mam yn awyddus iawn iddi hithau fynd yn lleian.[1]
Roedd Sarah Ponsonby (1755 – 9 Rhagfyr 1832) yn dod o Woodstock (Iwerddon) ac roedd yn ail gyfnither i Frederick Ponsonby, 3ydd Iarll Bessborough.[2]
Cyfarfu'r ddwy yn 1768 a deuthant yn ffrindiau mynwesol, gan gynllunio sut i ddianc o'u teuluoedd dros y blynyddoedd nesaf. Yn Ebrill 1778, rhedodd y ddwy i ffwrdd gan ddal cwch i Loegr ac yna i Langollen ble y bu iddyn nhw brynnu Plas Newydd ger Llangollen yn 1780.[2]
Cyfeillion
[golygu | golygu cod]Dywedir fod yr ymwelwyr canlynol yn gryn ffrindiau gyda'r ddwy ferch ac wedi ymweld â'u cartref: Dug Wellington, Syr Walter Scott, a Wordsworth.[3]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "BUTLER, yr Arglwyddes ELEANOR CHARLOTTE (1739 - 1829), un o 'Ledis Llangollen' | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2024-08-09. line feed character in
|title=
at position 8 (help) - ↑ 2.0 2.1 "PONSONBY, SARAH (1755 - 1831), un o 'Ledis Llangollen' | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2024-08-07. line feed character in
|title=
at position 10 (help) - ↑ BBC Wales
Oriel
[golygu | golygu cod]-
The Ladies of Llangollen, 1819
-
The Ladies of Llangollen
-
Cofeb ym mwynwent Eglwys Sant Collen, Llangollen