Pont Llangollen

Oddi ar Wicipedia
Pont Llangollen
Mathpont garreg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadLlangollen Edit this on Wikidata
SirLlangollen Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr75 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.9711°N 3.17021°W Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd I Edit this on Wikidata
Manylion

Saif Pont Llangollen ar Afon Dyfrdwy yn Llangollen, Sir Ddinbych. Yn ôl yr hen rigwm, mae'n un o Saith Rhyfeddod Cymru. Yn ôl pob tebyg, adeiladwyd y bont hynafol hon dros Afon Dyfrdwy gan John Trefor, Esgob Llanelwy o 1395 hyd 1412. Mae'n bont cerrig o bedwar arch.

Hanes[golygu | golygu cod]

Llun o'r bont ym 1793

Cofnodir pont dros Afon Dyfrdwy yn Llangollen mor gynnar â 1282. Yn ôl yr hynafiaethydd o'r 18g Thomas Pennant yn ei lyfr Tours in Wales, codwyd y bont bresennol gan yr Esgob John Trefor tua diwedd y 14g neu ddechrau'r 15fed.[1] Roedd y John Trefor hwnnw, yr ail o'r un enw i fod yn esgob Llanelwy, yn un o gynghorwyr y Tywysog Owain Glyndŵr ac yn adnabyddus fel noddwr diwylliant Cymraeg.

Ceir peth ansicrwydd am oed y bont, ac mae'n bosibl hefyd ei bod yn dyddio o tua 1500 neu wedi cael ei hadnewyddu tua'r flwyddyn honno. Ond yn erbyn y ddamcaniaeth honno mai'r ffaith nad oedd yr hynafiaethydd John Leland yn yr 16g yn meddwl ei bod yn adeiladwaith diweddar. Yn ôl pob tebyg felly mae'n dyddio o ddiwedd y 14g neu ddechrau'r 15g. Mae hynafiaethydd arall, Edward Lhuyd, yn cofnodi iddi gael ei hatgyweirio yn 1656.[1]

Yn 1873 lledwyd un ochr ac ychwanegwyd pedwerydd arch i wneud lle i'r rheilffordd.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 Helen Burnham, Clwyd and Powys (A Guide to Ancient and Historic Wales; HMSO, 1995).