Elena Puw Morgan
Gwedd
Elena Puw Morgan | |
---|---|
Ganwyd | 19 Ebrill 1900 Corwen |
Bu farw | 17 Awst 1973 Croesoswallt |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | llenor, nofelydd |
Nofelydd Cymraeg oedd Elena Puw Morgan (1900 - 1973). Mae ei nofelau, Y Wisg Sidan ac Y Graith wedi eu hail-argraffu nifer o weithiau. Enillodd y Fedal Ryddiaith am Y Graith yn 1938; ystyrir y nofel honno yn garreg filtir yn hanes datblygiad y nofel yn Gymraeg. Mae Catrin Puw Davies yn ferch iddi; Catrin oedd yn gyfrifol am ddiweddaru fersiwn o Y Graith (ISBN 9781859022658) yn 2000.
Ganed yr awdures yn nhref Corwen, Meirionnydd lle ymgartrefodd. Priododd yn 1931 a daeth ei chartref yn amlwg ym mywyd llenyddol y cylch: un o'r ymwelwyr rheolaidd oedd y llenor John Cowper Powys.
Yn ogystal â'i nofelau i oedolion ysgrifennodd straeon hanes i blant, e.e. Tan y Castell (1939). Ffilmiwyd Y Wisg Sidan ar gyfer S4C.
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Angel y Llongau Hedd (1931). I blant.
- Nansi Lovell (1933). Nofel.
- Tan y Castell (1939). Nofel i blant.
- Y Wisg Sidan (Y Clwb Llyfrau Cymreig, 1939)
- Y Graith (Y Clwb Llyfrau Cymreig, 1943)