Neidio i'r cynnwys

Y Graith

Oddi ar Wicipedia
Y Graith
Clawr argraffiad 2000
Enghraifft o:gwaith llenyddol Edit this on Wikidata
Dyddiad cynharaf1938
AwdurElena Puw Morgan
CyhoeddwrY Clwb Llyfrau Cymreig
GwladCymru
IaithCymraeg
Dyddiad cyhoeddi1943 Edit this on Wikidata
Argaeleddmewn print
Tudalennau244 Edit this on Wikidata
GenreNofelau Cymraeg
Dynodwyr

Nofel Gymraeg gan Elena Puw Morgan yw Y Graith a enillodd iddi Y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 1938. Hanes taith bywyd merch o’r enw "Dori" ar droad yr 20g yn ymgodymu ag amgylchiadau o dlodi a chreulondeb teuluol a geir yn y nofel. Ar ei hwyneb, y mae’r graith yn nheitl y nofel; y symbol o greulondeb ei mam. Y Clwb Llyfrau Cymreig a gyhoeddodd y gyfrol a hynny yn 1943. Addaswyd y nofel yn gyfres deledu gyfnod 4 pennod gan Ffilmiau Llifon ar gyfer S4C ym 1999 gyda Catrin Fychan yn portreadu'r prif gymeriad. Cafwyd addasiad radio 6 phennod hefyd ar BBC Radio Cymru ym 1983.

Cafwyd

Disgrifiad byr

[golygu | golygu cod]

Stori am y ferch "Dori", plentyn hynaf priodas ddi-gariad, yw canolbwynt y nofel, yn cael ei cham-drin gan ei mam sadistig. Wedi mudo i Lerpwl am ychydig flynyddoedd, mae'n dychwelyd ac yn priodi ffermwr lleol. Lleolir y nofel yn Sir Ddinbych.

Cefndir

[golygu | golygu cod]

Cyfaddefodd Elena Puw Morgan wrth ohebydd y Western Mail, wedi ei llwyddiant yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 1938, ei bod hi wedi ysgrifennu'r nofel "ar frys, braidd" ac mai ei thasg anoddaf oedd ceisio meddwl am deitl addas iddi.[1] Y nofel hon oedd ei hail lwyddiant, yn dilyn ei nofel flaenorol Nansi Lowell, y Sipsi Fach ym 1933. Nododd gohebydd y papur bod Y Graith yn cael ei harddel fel un o'r "most outstanding contribututions of recent years to Welsh literature".[1]

Daeth yn fuddugol allan o 5 ymgais am y Fedal Ryddiaith, yn darlunio'r newid ym mywyd y Cymry.

Addasiadau

[golygu | golygu cod]

Addasodd Eigra Lewis Roberts y nofel yn gyfres radio 6 pennod i BBC Radio Cymru ym 1983.[2] Aeth Eigra ymlaen i addasu'r nofel yn gyfres deledu 4 pennod i S4C ym 1999 gafodd ei chynhyrchu gan Ffilmiau Llifon. Defnyddiwyd llun Catrin Fychan, oedd yn portreadu'r prif gymeriad "Dori" ar flaen yr argraffiad newydd gan Gwasg Gomer yn 2000; yn 2013 roedd y gyfrol honno mewn print.[3]

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1.0 1.1 "Eisteddfod week". Western Mail. 6 Awst 1938.
  2. Roberts, Iorwerth (4 Hydref 1983). Airwaves ripple on. Daily Post.
  3. Gwefan Gwales; adalwyd 16 Hydref 2013