Eglwys Sant Tyrnog
![]() | |
Math | eglwys ![]() |
---|---|
Enwyd ar ôl | Tyrnog ![]() |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Llandyrnog ![]() |
Sir | Llandyrnog ![]() |
Gwlad | ![]() |
Uwch y môr | 60.1 metr ![]() |
Cyfesurynnau | 53.1755°N 3.33626°W ![]() |
![]() | |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd II* ![]() |
Cysegrwyd i | Tyrnog ![]() |
Manylion | |
Eglwys Gradd II* o'r 15g yw Eglwys Sant Tyrnog a leolwyd yng nghanol pentref Llandyrnog, yn Esgobaeth Llanelwy, tua tair milltir i'r dwyrain o Ddinbych (Rhif cyfeirnod OS: SJ0196665342). Ceir y cofnod cyntaf ohoni yn y Norwich Taxation o 1254.
Mae'r eglwys hon yn un o bedair eglwys Ganoloesol yn Nyffryn Clwyd. Cysegrwyd hi i Sant Tyrnog (weithiau 'Teyrnog'); credir fod yr adeilad presennol yn dyddio o'r 15g, ond mae'r fynwent gron yn awgrymu ei bod yn sefydliad hynafol iawn ac o bosibl yn Geltaidd. Adferwyd yr adeilad gan y pensaer Fictoraidd Eden Nesfield rhwng 1876 a 1878 ar gost o tua £3,000.[1] Ar ochr ddwyreniol yr eglwys ceir ffenestr liw nodedig, yr unig un o'i bath yng Nghymru. Ceir y dyddiad 1682 ar un o'r bedd-gistiau yn y fynwent a chloc haul a wnaed yn Nhreffynnon gyda'r dyddiad 1749 arno.[2]
Fel nifer o eglwysi Dyffryn Clwyd, mae gan yr eglwys hon ddau gorff (naves), a bwa pren yn cynnal y ddau. Mae'r waliau allanol wedi'u rendro ac felly mae'n anodd manylu ar eu deunyddiau, carreg leol mae'n debyg.
Ffenestr liw
[golygu | golygu cod]Efallai mai'r eitem pwysicaf sydd yma, ar wahân i'r eglwys ei hun, yw ffenestr liw o tua 1500 a welir yn ochr ddwyreiniol yr eglwys. Darganfuwyd y ffenestr wedi'i chuddio - yn debyg felly i ffenestr enwog Eglwys Sant Dyfnog, Llanrhaeadr, tua 4 milltir i'r de - mewn cist yn yr eglwys ac o dan y llawr. Mae'n dyddio i tua 1490, ac mae'r prif ran yn y canol yn darlunio croesheliad Crist, gyda nentydd o waed yn llifo o'i gorff. Credir fod pob un o'r 7 nant yma, ar un cyfnod, yn arwain i 7 llun o'r 'Saith Sacrament'. Wyth yn unig sydd wedi goroesi drwy wledydd Prydain, a dyma'r unig un yng Nghymru.[3]
Sant Tyrnog
[golygu | golygu cod]- Prif: Tyrnog
Mynach o'r 6g oedd Tyrnog (enw llawn: Tyrnog ap Hawystl Gloff), a brawd Santes Marchell y ceir eglwys iddi ger Dinbych, 3 milltir i'r dwyrain, sef Eglwys Llanfarchell (neu'r 'Eglwys Wen'), Dinbych. Brawd iddo oedd Sant Deifar o Fodfari, gerllaw. Ceir ei enw hefyd yn "Rhos Dyrnog", Darowen, Cyfeiliog, Powys Wenwynwyn. Sant arall gydag enw tebyg yw Twrog. Noda Bonedd y Saint ei fod yn fab i Hawystl Gloff a Tywanwedd ferch Amlawdd Wledig. Ymddengys y cofnod cyntaf ohono fel 'Teyrnog'.
Ei wylmabsant yw 4 Ebrill ac ysgrifennwyd enw'r eglwys fel 'Llandernant' a cheir 'Llandeyrnog' cyn 1644, ond ym Peniarth MS 147 fe'i sillefir fel 'Llanddyrnoc' (c.1566) (RWM i.914). Mae'n bosib mai'r un yw Teyrnog a'r Gwyddel Sant Tigernach (St.Tigernach o Clones, neu Cluain Eóis yn y Wyddeleg), sydd a'i wylmabsant hefyd ar yr un dyddiad.
-
Yr eglwys o'r gogledd
-
1975
-
2015
-
Y clochdy dwbwl
-
Y tu fewn, i gyfeiriad yr allor
-
Ffenestr liw o tua 1500
-
Llun manwl
-
Trawstiau derw'r nenfwd
Ceir mewn ffenestr arall res o bump o fenywod, sef y seintiau: Marchell, Gwenffrewi, Mair mam yr Iesu, Frideswide a Chatrin.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ cpat.demon.co.uk; Archifwyd 2009-12-31 yn y Peiriant Wayback adalwyd 28 Mawrth 2017.
- ↑ www.walesher1974.org; adalwyd 28 Mawrth 2017.
- ↑ medieval-wales.com; Archifwyd 2016-09-25 yn y Peiriant Wayback adalwyd 28 Mawrth 2017.