Gruffudd Maelor II
Gwedd
Gruffudd Maelor II | |
---|---|
Ganwyd | 1236 |
Bu farw | 7 Rhagfyr 1269 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Swydd | Powys Fadog |
Tad | Madog ap Gruffudd Maelor |
Mam | Isota |
Priod | Emma d'Audley |
Plant | Gruffudd Fychan I, Madog ap Gruffudd II, Angharad Griffith, Margred ferch Gruffudd ap Madog |
Arglwydd y rhan fwyaf o deyrnas Powys Fadog oedd Gruffydd Maelor II neu Gruffudd ap Madog (1236 - 1269). Gelwir ef hefyd yn "Arglwydd Dinas Brân" ei bod bron yn sicr mai ef a gododd y castell garreg yn wreiddiol.
Roedd yn fab hynaf i dywysog Powys Fadog, Madog ap Gruffudd Maelor. Ar farwolaeth ei dad, rhannwyd Powys Fadog rhyngddo ef a'i bedwar brawd, Gruffudd Ial, Maredudd, Hywel a Madog Fychan. Priododd Emma, gweddw Henry Touchet a merch Henry Audley.
Gadawodd nifer o blant:
- Madog II, olynydd ei dad; lladdwyd yn ymladd yn erbyn y Saeson yn 1277.
- Llywelyn.
- Owain.
- Gruffudd Fychan I a olynodd ei frawd Madog yn 1277; bu farw 1289.
- Angharad; priododd William Le Botiler o Wem, Swydd Amwythig,