Arfon Uwch Gwyrfai
Math | cwmwd |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd |
Gwlad | Cymru |
Yn ffinio gyda | Arfon Is Gwyrfai |
Cyfesurynnau | 53.02°N 4.364°W |
Cwmwd yng ngogledd Teyrnas Gwynedd yn yr Oesoedd Canol oedd Arfon Uwch Gwyrfai (ffurf amgen: Arfon Uwch-Gwyrfai). Gyda'i gymydog Arfon Is Gwyrfai, roedd yn un o ddau gwmwd cantref Arfon.
Dynodai afon Gwyrfai y ffin rhwng y ddau gwmwd. Rhed yr afon honno o'i tharddle yn Llyn y Gadair ger Rhyd Ddu i'r gogledd i aberu yn Afon Menai rhwng plwyfi Llanwnda a Llanfaglan. Mae'n gorwedd i'r gorllewin o gwmwd Is Gwyrfai. I'r de ffiniai Uwch Gwyrfai â chantref Eifionydd. I'r de-orllewin cyffyrddai â rhan o gantref Llŷn, ac i'r gorllewin ymagorai'r cwmwd ar Fae Caernarfon.
Yn nhermau daearyddol mae rhan orllewinol y cwmwd yn rhan o benrhyn Llŷn gyda chopaon Yr Eifl (safle bryngaer Tre'r Ceiri) yn ei dominyddu. I'r dwyrain o'r arfordir o fryniau isel, ymestynnai'r cwmwd i mewn i ganol Eryri a llethrau gorllewinol Yr Wyddfa. Mae'n cynnwys y Mynydd Mawr a Chrib Nantlle gyda Dyffryn Nantlle yn gorwedd rhyngddynt.
Mae gan Uwch Gwyrfai gysylltiadau cryf â'r chwedl Math fab Mathonwy, y bedwaredd o Bedair Cainc y Mabinogi. Yma ceir Dolbebin a Baladeulyn. Oddi ar yr arfordir gyferbyn â Dinas Dinlle ceir safle Caer Arianrhod.
Nodweddir y cwmwd gan ei gysylltiadau crefyddol. Yma ceir eglwys hynafol Clynnog Fawr. Mae eglwsi cynnar eraill yn cynnwys Llanaelhaearn, Llandwrog a Llanwnda. Ar dir Rhedynogfelen yn y plwyf olaf ymsefydlodd y mynachod Sistersiaid cyntaf a ddaeth i Arfon: aethant oddi yno i sefydlu Abaty Aberconwy ar aber afon Conwy.
Roedd y "trefi" neu drefgorddi canoloesol yn cynnwys Elernion (ger Trefor), Pennardd, Eithinog, Dolbebin a Dinlle.
Yn 2006 sefydlodd Canolfan Hanes Uwchgwyrfai yn adeilad hen ysgol ragbaratoawl y Presbyteriaid yng Nghlynnog Fawr, lle cynhelir cyfarfodydd a gweithgareddau yn ymwneud â hanes y cwmwd a'r gymdogaeth ehangach. Mae gan y Ganolfan hon bellach gronfa gynyddol ar-lein o ffeithiau hanesyddol ar batrwm wici, sef Cof y Cwmwd [1].
Plwyfi
[golygu | golygu cod]Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Ffynonellau
[golygu | golygu cod]- A. D. Carr, 'Medieval Administrative Divisions', yn Atlas of Caernarfonshire (Caernarfon, 1974)