Rhun ab Owain Gwynedd

Oddi ar Wicipedia
Rhun ab Owain Gwynedd
TadOwain Gwynedd Edit this on Wikidata

Roedd Rhun ab Owain Gwynedd (m. 1146) yr hynaf o feibion Owain Gwynedd, brenin teyrnas Gwynedd.

Ychydig a wyddys amdano. Roedd ei fam yn Wyddeles o'r enw Pyfog (a elwir mewn rhai ffynonellau yn Ffynnod Wyddeles), un o ordderchwragedd niferus ei dad. Ond nid oedd bod yn blentyn gordderch yn lawer o anfantais yn y cyfnod hwnnw, a chafodd Rhun ei enwi'n etifedd y deyrnas gan Owain. Ymddengys iddo farw'n ifanc iawn, yn 1146, heb adael plant ar ei ôl.

Ei frodyr oedd Iorwerth Drwyndwn (tad Llywelyn Fawr: m. 1174?), y bardd-dywysog Hywel ab Owain Gwynedd (m. 1170), Maelgwn, Dafydd (m. 1203), Rhodri (hendaid Senana gwraig Gruffudd ap Llywelyn a mam Llywelyn ein Llyw Olaf: m. 1195), a Chynan (tad Gwerful Goch a gorhendaid i Fadog ap Llywelyn, arweinydd y gogledd yng Ngwrthryfel Cymreig 1294-96 yn erbyn y goresgyniaid Seisnig).