Bryn y Glo

Oddi ar Wicipedia

Ardal yn nhref Y Fflint heddiw yw Bryn y Glo (Saesneg Coleshill). Mae tarddiad yr enw yn ddirgelwch. Ymddengys ei fod yn enghraifft o gam-gymreigio enw Saesneg oedd yn ei dro yn llygriad o hen enw Cymraeg. Bryn Coel fuasai'r enw gwreiddiol felly (mae Coel yn enw personol digon cyffredin mewn Cymraeg Cynnar; y Coel enwocaf yw Coel Hen, brenin Brythonaidd o'r Hen Ogledd yn ôl traddodiad).

Ymwelodd Gerallt Gymro â Bryn y Glo ar ran olaf ei daith trwy Gymru gyda Baldwin, Archesgob Caergaint, yn haf 1188, ar ei ffordd rhwng Rhuddlan a Chaer. Cyfeiria Gerallt at y frwydr a ymladdwyd yno pan ddaeth y brenin Harri II o Loegr i geisio goresgyn Gwynedd. Roedd yn ardal goediog iawn ac ymosododd rhyfelwyr Gwynedd o'r coed yn sydyn - tactegau guerilla - a chollodd y brenin nifer o'i filwyr. Mae gan Gerallt hanesyn bach am ffyddlondeb cwn hela rhyfelwr ifanc o Gymro a syrthiodd yn y frwydr. Arosodd yr helgwn wrth y corff heb fwyd na diod am wyth diwrnod yn ei warchod rhag cael ei ddifetha gan adar a bleiddiaid.

Darllen pellach[golygu | golygu cod]

  • Thomas Jones (gol.), Gerallt Gymro, tt. 141-3.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]