Brwydr Cwnsyllt

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search

53°15′13″N 3°09′56″W / 53.2536°N 3.1655°W / 53.2536; -3.1655Cyfesurynnau: 53°15′13″N 3°09′56″W / 53.2536°N 3.1655°W / 53.2536; -3.1655

Diagram lleoliad, gan ddefnyddio nodweddau modern i leoli'r maes y gad tebygol (Coed Cwnsyllt uwchlaw Nant y Fferm).

Brwydr a chyflafan rhwng Owain Gwynedd a byddin enfawr Harri II, brenin Lloegr ym mis Gorffennaf 1157 oedd Brwydr Cwnsyllt (neu 'Frwydr Bryn y Glo', 'Brwydr Coed Ewloe' neu 'Frwydr Coed Penarlâg'),[1] gyda'r Cymry'n fuddugol.

Cwmwd yng ngogledd-ddwyrain Cymru ar lan aber afon Dyfrdwy oedd Cwnsyllt (Saesneg: Coleshill). Gyda chymydau Prestatyn a Rhuddlan, roedd yn rhan o gantref Tegeingl. Digwyddodd y frwydr yma, ar safle ger Bryn y Glo, yn 1157 a dihangodd brenin Lloegr o'r gyflafan trwy groen ei ddannedd.

Brwydr rhwng byddin enfawr Harri II, a'r Tywysog Owain Gwynedd ydoedd; ni wyddus yn union faint o filwyr oedd yn y naill fyddin na'r llall, ond credir, efallai fod cymaint a 3,000 o ddynion ym myddin Owain ac efallai 4 gwaith hynny ym myddin y Norman. Er hyn, llwyddodd y fyddin Gymraeg i drechu'r Normaniaid.

Trechwyd llynges Brenin Lloegr tua'r un pryd ym Môn gan y Cymry lleol a lladdwyd Henry Fitz Roy. Credai'r hanesydd J. E. Lloyd mai hwylio o Benfro i Ruddlan oedd y bwriad, ond i Fitz Roy benderfynu ymosod ar Fôn ar y ffordd, gan reibio a llosgi dwy eglwys: Llanbedrgoch a Llanfair Mathafarn Eithaf. Lladdwyd Fitz Roy gan y Cymry, a dihangodd y rhai a oedd yn weddill yn ôl i'w llongau.

Yn yr un flwyddyn, ymosododd y Normaniaid ar Rhys ap Gruffudd, Brenin y Deheubarth.

Y frwydr[golygu | golygu cod y dudalen]

Cododd milwyr Owain wersyll ger Abaty Dinas Basing, tua 12 milltir o Saltney yng ngogledd-ddwyrain Cymru, a danfonwyd rhan o'i fyddin o dan arweiniad dau o'i feibion i Goed Ewloe i guddio a pharatoi ar gyfer rhagod. Am ryw reswm, teithiodd y fyddin Saesnig drwy'r coed ac ymosododd y Cymry gan ladd nifer ohonynt. Cael a chael oedd hi i Harri fedru ffoi gyda'i fywyd.[2]

Manylion yn nhrefn amser[golygu | golygu cod y dudalen]

  • 17 Gorffennaf 1157: Harri II, brenin Lloegr yn cynnal cyngor brenhinol yn Northampton, lle cytunwyd i geisio goresgyn tiroedd y brenin Owain Gwynedd.
  • 24 Mehefin: cofnododd Robert de Torigni i Harri II baratoi ar gyfer cyrch ar ogledd-ddwyrain Cymru, gyda gorfodaeth 'y dylai pob dau farchog ymarfogi trydydd marchog er mwyn ymosod ar fôr a thir.'[3]
  • Diwedd Gorffennaf 1157: ymgasglodd y fyddin Normanaidd yn Saltney Marsh, i'r gorllewin o Gaer (Saltney heddiw), gyda Harri II yn bresennol.
  • Yr un pryd crynhodd Owain Gwynedd a'i feibion Dafydd a Cynan y Fyddin Gymreig yn 'Ninas Basing' (o bosib ger Abaty Dinas Basing) gan godi amddiffynfa gref o'u cwmpas (gweler yr Annales, RBH a Peniarth MS 20). Awgryma rhai haneswyr fod 'Dinas Basing' yn cyfeirio at ' Hen Blas'.
  • Holltodd Harri ei fyddin yn ddwy ran; aeth nifer fawr o farchogion ar hyd yr arfordir, ac aeth y gweddill, gan gynnwys ef ei hun ymlaen i ymosod ar fyddin Owain drwy goed Penarlâg ('coed Pennardlaoc' yn ôl Peniarth MS). Credir, bellach, mai Coed Cwnsyllt (Bryn y Glo) oedd y lleoliad.
  • Cofnoda'r Annales Cambriae stori wahanol: i'r brenin a'i fyddin gyfan deithio ar hyd yr arfordir cyn troi tua'r tir a thuag at y coed rhyngddo a byddin Owain yn ‘Dinas Basing’. Noda Gerallt Gymro mai enw'r coed oedd 'Coed Coleshill'.
  • Mae mwyafrif y croniclau perthnasol yn nodi i Harri gael ei ragodi gan y Fyddin Gymreig wrth iddo deithio drwy'r coed. Noda William of Newburgh a Jocelin de Brakelond fod 4 o brif filwyr gyda'r brenin, a'u milwyr a'u marchogion arfog hy nid gwŷr traed yn unig.[4]
  • Dafydd a Cynan oedd arweinwyr y rhan o'r fyddin a oedd yn cuddio yn y coed; noda'r croniclau hefyd i'r Normaniaid gael colledion 'enfawr'.
  • Yn ôl Brenhinedd y Saeson, erlidiwyd y Normaniaid gan Dafydd ap Owain, gan eu 'lladd a'u llofruddio' yr holl ffordd, hyd at yr afon yng Nghaer. Mae hyn yn cydfynd gyda cherdd gan Cynddelw Brydydd Mawr.
  • Enwir dau o'r prif farchogion a laddwyd: Eustace fitz John, cwnstabl Caer a Robert de Courcy.
  • Nodir i Henry o Essex, llumanwr brenin Lloegr, daflyd prif faner y brenin i'r llawr, gan gredu ei fod yn farw.
  • Symudodd Owain ei ran ef o'i fyddin o 'Dinas Basing' i 'Gil Owain', i'r de o Lanfair Talhaearn, a oedd ym mhlwyf Llanelwy, ac oddi yno i'r de o Fodelwyddan.[5]

Yn dilyn y frwydr[golygu | golygu cod y dudalen]

nid oes cofnod o faint oedd yn y naill fyddin na'r llall, ac ni wyddus faint a laddwyd. Gwyddus, fodd bynnag, fod llawer iawn o fyddin y Normaniaid wedi eu lladd.

Cyhuddodd Robert de Montfort lumanwr brenin Lloegr, Henry o Essex, o frad a llwfrdra a chollodd ei safle a'i dir gan fyw mewn mynachdy wedi hynny.

Lleoliad 'Dinas Basing'[golygu | golygu cod y dudalen]

Ceir dau bosibilrwydd:

  1. Abaty Dinas Basing yn Nhreffynnon. Dyma'r lleoliad a nodir gan J. E. Lloyd a Cathcart-King; nid yw mor debygol, erbyn heddiw, a'r ail leoliad.
  2. SJ 222 734 - ym Mhlwyf Cwnsyllt - tua tair cilometr i'r de-dwyrain o Dreffynnon; un km i'r de o Fagillt. Yn 1157 roedd yma gastell mwnt a beili a chapel, o fewn ffosydd amddiffynol. Mae llethrau serth naturiol y nant yn amddiffyn gogledd, de a dwyrain y gaer hon.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Gwefan www.cylchgronaucymru.llgc.org.uk; Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
  2. Gwefan Balchder Cymru
  3. Welsh Battlefields, Historical Research: Coleshill (1157); Border Archaeology.
  4. D.J. Cathcart King, Henry II and the Fight at Coleshill, Welsh History Review Cyfr. 2 (1964-5), 372.
  5. Brut y Tywysogion: Llyfr Coch Hergest, gol. & traws. T. Jones (Caerdydd 1973), 135-6.
  • J.E. Lloyd, A History of Wales from the earliest times to the Edwardian Conquest, 2 gyfrol (Llundain 1939), II, 494-5.
  • R.R. Davies, The Age of Conquest: Wales 1063-1415 (Rhydychen 2000), 48-50