Henry Fitz Roy
Gwedd
| Henry Fitz Roy | |
|---|---|
| Ganwyd | 12 g |
| Bu farw | 1158 |
| Galwedigaeth | person milwrol |
| Tad | Harri I, brenin Lloegr |
| Mam | Nest ferch Rhys ap Tewdwr |
| Priod | NN |
| Plant | Meiler Fitzhenry, Robert FitzHenry, Master Morgan FitzHenry, Amabel FitzHenry |
Mab gordderch i Harri I, brenin Lloegr a Nest ferch Rhys ap Tewdwr oedd Henry FitzRoy, hefyd Henry FitzHenry, (tua 1103 – 1157).
Lladdwyd ef yn ystod ymgyrch Harri II, brenin Lloegr yn erbyn y brenin Owain Gwynedd yn 1157. Roedd Henry yn un o arweinwyr llynges Seisnig a ymosododd ar Ynys Môn tra'r oedd prif fyddin y brenin yn ymosod ar hyd arfordir gogledd Cymru. Glaniodd y llynges ym Môn ac ymosododd ar ddwy eglwys: Llanbedrgoch a Llanfair Mathafarn Eithaf ond gorchfygwyd hwy gan y Cymry lleol, gyda Henry yn un o'r lladdedigion.