Owain ab Edwin ap Gronw
Gwedd
| Owain ab Edwin ap Gronw | |
|---|---|
| Bu farw | 1105 |
| Galwedigaeth | tirfeddiannwr |
| Tad | Edwin of Tegeingl |
| Mam | Iwerydd ferch Cynfyn |
| Priod | Morwyl ferch Ednywain Bendew |
| Plant | Angharad ferch Owain, Goronwy ab Owain, Aldud ab Owain ab Edwin ap Gronwy, Meilir ab Owain ab Edwin ap Gronwy, Llywelyn ab Owain ab Edwin ap Gronwy |
Uchelwr Cymreig yn dal tiroedd yn Nhegeingl oedd Owain ab Edwin ap Gronw (bu farw 1105).
Bywgraffiad
[golygu | golygu cod]Roedd yn fab i Edwin ap Gronw o linach Hywel Dda ac Iwerydd, hanner-chwaer Bleddyn ap Cynfyn. Roedd ganddo frawd, Uchtryd ab Edwin. Dywedir iddo gynorthwyo Hugh, Iarll Caer yn ei ymgyrch yn erbyn Gwynedd yn 1098. Priododd ei ferch, Angharad, a brenin Gwynedd, Gruffudd ap Cynan. Roedd ganddo fab, Gronw ab Owain, a daeth ei ferch ef, Cristin neu Cristina, yn ail wraig Owain Gwynedd. Roedd y berthynas deuluol rhwng Owain Gwynedd a Cristina yn achos anghydfod gyda'r eglwys, a pharodd ysgymuno Owain pan wrthododd ysgaru Cristina.