Angharad ferch Owain
Gwedd
| Angharad ferch Owain | |
|---|---|
| Ganwyd | 1065 |
| Bu farw | 1162 Gwynedd |
| Dinasyddiaeth | |
| Galwedigaeth | tirfeddiannwr |
| Tad | Owain ab Edwin ap Gronw |
| Mam | Morwyl ferch Ednywain Bendew |
| Priod | Gruffudd ap Cynan |
| Plant | Owain Gwynedd, Gwenllian ferch Gruffudd ap Cynan, Cadwallon ap Gruffudd, Cadwaladr ap Gruffudd, Siwsana ferch Gruffudd, Rhanullt ferch Gruffudd ap Cynan, Margred ferch Gruffudd ap Cynan |
Gwraig Gruffudd ap Cynan, brenin Gwynedd a mam Owain Gwynedd oedd Angharad ferch Owain (bu farw 1162).[1]
Bywgraffiad
[golygu | golygu cod]Roedd Angharad yn ferch i Owain ab Edwin ap Gronw, uchelwr pwysig o Degeingl (rhan o Sir y Fflint heddiw). Priododd Gruffudd tua 1095, pan oedd newydd ddechrau ei ymdrech i adfeddiannu Gwynedd. Cawsant dri mab: Cadwallon ap Gruffudd, Owain Gwynedd a Chadwaladr ap Gruffudd, a phum merch: Gwenllian ferch Gruffudd, a briododd Gruffudd ap Rhys, Marared, Rainillt, Susanna, a briododd Madog ap Maredudd o Bowys, ac Annest.[1]
Ceir canmoliaeth fawr i Angharad yn Hanes Gruffudd ap Cynan, a gomisiynwyd mae'n debyg yn ystod teyrnasiad ei mab, Owain Gwynedd. Pan fu Angharad farw yn 1162, dywedir i Owain alaru'n ddirfawr amdani.[1]