Gwenllian ferch Gruffudd ap Cynan

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Gwenllian ferch Gruffudd ap Cynan
Ganwyd 1097 Edit this on Wikidata
Aberffraw Edit this on Wikidata
Bu farw 1136 Edit this on Wikidata
Castell Cydweli Edit this on Wikidata
Cenedl Baner Cymru Cymru
Galwedigaeth teyrn Edit this on Wikidata
Tad Gruffudd ap Cynan Edit this on Wikidata
Mam Angharad ferch Owain Edit this on Wikidata
Priod Gruffydd ap Rhys Edit this on Wikidata
Plant Rhys ap Gruffudd Edit this on Wikidata
Teulu Owain Gwynedd Edit this on Wikidata
Llinach House of Dinefwr, Llinach Aberffraw Edit this on Wikidata

Merch Gruffudd ap Cynan a'i wraig Angharad ferch Owain, chwaer Owain Gwynedd a gwraig Gruffudd ap Rhys o Caeo, tywysog Deheubarth, oedd Gwenllian (bu farw 1136). Cyfunai felly Wynedd a Deheubarth trwy ei phriodas. Cafodd o leiaf bedwar o blant: Anarawd (bu farw 1143), Cadell (bu farw 1175), Maredudd (bu farw 1155) a Rhys ap Gruffudd (Yr Arglwydd Rhys, m. 1197).

1136[golygu | golygu cod y dudalen]

Cartref Gwenllian wedi iddi briodi: Castell Cydweli

Ychydig o ffeithiau cadarn sydd ar glawr amdani tan ei blwyddyn olaf. Yn y flwyddyn 1136 bu farw Harri I, brenin Lloegr. Gwelai Gruffudd ap Cynan gyfle i adennill tir oddi ar y Normaniaid gan fanteisio ar y mewn-frwydro dros yr olyniaeth rhwng yr Ymerodres Matilda a Steffan, brenin Lloegr. Torrodd gwrthryfel allan yn y Deau ac aeth Gruffudd ap Rhys i Wynedd i gael cymorth ei dad-yng-nghyfraith, Gruffydd ap Cynan. Cymerodd Gwenllian yr awennau yn Neheubarth yn abesenoldeb ei gŵr.

Yn ymyl Castell Cydweli yn 1136 ymladdwyd Brwydr Maes Gwenllian rhwng byddin o Gymry lleol dan Wenllian, a Maurice de Londres. Collodd y Cymry y dydd yn erbyn llu sylweddol a atgyfnerthwyd gan farchogion Normanaidd a anfonwyd gan rai eraill o arglwyddi'r Mers. Daliwyd y dywysoges ar faes y gad. Er gwaethaf y ffaith ei bod o waed brenhinol ac yn fam, cafodd ei dienyddio ar orchymyn de Londres.

Cof[golygu | golygu cod y dudalen]

Ar 23 Mai 1991, dadorchuddiwyd cofeb er cof am Wenllian yn y castell hwnnw. Codwyd yr arian at hyn gan aelodau o Ferched y Wawr ledled Cymru. Arweiniwyd y seremoni gan Gwynfor Evans.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

  • J. E. Lloyd, A History of Carmarthenshire (Caerdydd, 1935). t. 140
  • Peter Newton, Gwenllian: The Welsh Warrior Princess (Gwasg Carreg Gwalch, Llanrwst, 1992).