Castell Cydweli

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Hen engrafiad o Gastell Cydweli yn hanner cyntaf y 19eg ganrif, gan W. Radclyffe o ddarlun D. Cox (1883)

Saif Castell Cydweli yn nhref Cydweli, wrth aber Afon Gwendraeth Fach yn Sir Gaerfyrddin. Codwyd y castell gan yr arglwydd Normanaidd, William de Londres, tua'r flwyddyn 1100, i reoli Cwmwd Cydweli yn y Cantref Bychan.

Yn ymyl y castell yn 1136 ymladdwyd Brwydr Maes Gwenllian rhwng Gwenllian, gwraig Gruffudd ap Rhys o Caeo, a Maurice de Londres. Lladdwyd y dywysoges yn y frwydr.

Cipiodd yr Arglwydd Rhys y castell ar ddechrau'r 1190au.

Yn 1231 fe'i cipiwyd gan Llywelyn Fawr yn ystod ei ymgyrch mawr yn y de.

Ar 23 Mai 1991 dadorchuddiwyd gofeb er cof am Gwenllian yn y castell. Codwyd yr arian at hyn gan Ferched y Wawr ledled Cymru. Arweiniwyd y seremoni gan Gwynfor Evans.

Brwydr Cydweli (1258)[golygu | golygu cod y dudalen]

Searchtool.svg
Prif erthygl: Brwydr Cydweli

Roedd buddugoliaeth Byddin y Cymry dros y Saeson ym Mrwydr Cydweli yn un eithriadol o bwysig.[1]

Roedd yn un o gyfres o ymgyrchoedd a arweiniwyd gan y Tywysog Llywelyn yn erbyn y Saeson (neu'r 'Anglo-Normaniaid') ac yn dilyn yn agos at fuddugoliaeth y Cymry ym Brwydr Coed Llathen a chipio nifer o gestyll yn ôl i feddiant Llywelyn, gan gynnwys Talacharn, Llansteffan ac Arbeth. Ym Mrwydr Cydweli, arweiniwyd y Saeson gan Patrick de Chaworth. Cyfeiria'r Annales Cambriae at y frwydr hon.

Oriel[golygu | golygu cod y dudalen]

CymruCaerfyrddin.png Eginyn erthygl sydd uchod am Sir Gaerfyrddin. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
  1. meysyddbrwydro.cbhc.gov.uk; The Battle of Kidwelly; NGR: SN407068; Report on Historical Assessment, Prepared For Cadw by Royal Commission on the Ancient and Historical Monuments of Wales.; adalwyd 28 Gorffennaf 2018.