Castell Llansteffan
Gwedd
| Math | castell, caer bentir, safle archaeolegol |
|---|---|
| Sefydlwyd | |
| Daearyddiaeth | |
| Lleoliad | Llansteffan |
| Sir | Sir Gaerfyrddin |
| Gwlad | |
| Uwch y môr | 65.8 metr |
| Cyfesurynnau | 51.7655°N 4.3908°W |
| Cod OS | SN35141014 |
| Rheolir gan | Cadw |
![]() | |
| Perchnogaeth | Cadw |
| Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd I, heneb gofrestredig, Henebion Cenedlaethol Cymru |
| Manylion | |
| Dynodwr Cadw | CM004 |
Saif Castell Llansteffan wrth aber Afon Tywi lle mae'n llifo i Fae Caerfyrddin, hanner milltir i'r de o bentref Llansteffan. Codwyd y castell gan y Normaniaid yn gynnar yn y 1100au ar safle bryngaer arfordirol gynharach.
Cipiwyd y castell yn 1146, yn ôl Brut y Tywysogion, gan y Tywysog Maredudd ap Gruffudd ap Rhys ap Tewdwr a'i frawd Cadell ap Gruffudd. Ceisiodd llu o Normaniaid a Ffleminiaid de Penfro adennill y castell ond fe'u gorchfygwyd gan y Cymry ar ôl iddynt amddiffyn y castell ac wedyn gwrthymosod ar y gelyn.
Roedd y castell yn ôl ym meddiant y Normaniaid erbyn 1158.
