Brwydr Cydweli
Enghraifft o'r canlynol | brwydr |
---|
Roedd buddugoliaeth Byddin y Cymry dros y Saeson ym Mrwydr Cydweli yn un eithriadol o bwysig.[1] Fe'i hymladwyd yn 1258 yn nhref Cydweli, Sir Gaerfyrddin.
Roedd yn un o gyfres o ymgyrchoedd a arweiniwyd gan y Tywysog Llywelyn ap Gruffudd yn erbyn y Saeson (neu'r 'Anglo-Normaniaid') ac yn dilyn yn agos at fuddugoliaeth y Cymry ym Brwydr Coed Llathen a chipio nifer o gestyll yn ôl i feddiant Llywelyn, gan gynnwys Talacharn, Llansteffan ac Arberth. Ym Mrwydr Cydweli, arweiniwyd y Saeson gan Patrick de Chaworth. Cyfeiria'r Annales Cambriae at y frwydr hon.
Y frwydr
[golygu | golygu cod]Yn dilyn llwyddiant y Fyddin Gymreig yn Nyffryn Tywi, cododd wersyll ychydig i'r de o Afon Gwendraeth Fach y tu allan i dref Cydweli ar ddull gwarchae. O'u castell yng Nghaerfyrddin, teithiodd Patrick de Chaworth a'i filwyr mewn gwrth-ymosodiad, er mwyn codi'r gwarchae ar Gastell Cydweli. Credir iddynt deithio i'r de yn agos at Allt Cunedda. Cafwyd brwydr enbyd rhwng y fan hon a gwersyll y Cymry i'r gogledd o'r castell. Ger pont Cydweli anafwyd y bradwr Maredudd ap Rhys. Roedd y Fyddin Gymreig yn rhy gryf i'r Saeson a gwelwyd nhw'n ei gwadnu hi'n ôl tuag at Caerfyrddin, yn aflwyddiannus yn eu hymdrech.
Niferoedd
[golygu | golygu cod]Dywed yr Annales Cambriae i 'lawer o Gymry a Saeson gael eu hanafu a bu farw rhai ohonynt.' Gwyddom i fyddin Llywelyn ladd 3,000 o filwyr Seisnig yn Nyffryn tywi, ychydig yn gynharach.[2] Noda'r Annales hefyd i Dafydd ap Hywel o gantref Arwystli yn ne Teyrnas Powys (gorllewin canolbarth Powys heddiw) gael ei ladd ac iddo gael ei gladdu yn Abaty Ystrad Fflur.
Adlodd
[golygu | golygu cod]Ni chlywir na siw naa miw am Maredudd a Patrick tan y mis Medi dilynol, pan godon nhw fyddin fawr ger Aberteifi, lle ymladdwyd Brwydr Cilgerran ar 8 Medi 1258. Y Tywysog Dafydd ap Llywelyn oedd arweinydd Byddin Cymru y tro hwn a lladdwyd Patrick de Chaworth a llawer iawn o farchogion Seisnig eraill; llwyddodd Mareydd, fodd bynnag, i ddianc am ei fywyd i Gastell Cilgerran.[3] Ar 7 Mai fe'i cafwyd yn euog am fradwriaeth gan un o lysoedd Llywelyn a charcharwyd ef am dair blynedd. Bu farw yng Nghastell y Dryslwyn yn 1271.
Tyfodd cryfder Llywelyn ap Gruffudd dros y blynyddoedd dilynol gan gyrraedd ei anterth yn 1263.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ meysyddbrwydro.cbhc.gov.uk; The Battle of Kidwelly; NGR: SN407068; Report on Historical Assessment, Prepared For Cadw by Royal Commission on the Ancient and Historical Monuments of Wales.; adalwyd 28 Gorffennaf 2018.
- ↑ J. Beverley Smith, Llywelyn ap Gruffudd Prince of Wales (Caerdydd, 1998), tt. 98–9.
- ↑ Smith, Llewelyn ap Gruffudd, t. 108.