Castell Talacharn
![]() | |
Math | castell, safle archaeolegol ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Treflan Lacharn ![]() |
Sir | Sir Gaerfyrddin |
Gwlad | ![]() |
Uwch y môr | 12 metr, 13.3 metr ![]() |
Cyfesurynnau | 51.7696°N 4.46205°W ![]() |
Rheolir gan | Cadw ![]() |
![]() | |
Perchnogaeth | Cadw ![]() |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd I, heneb gofrestredig ![]() |
Manylion | |
Dynodwr Cadw | CM003 ![]() |
Castell yn nhref Talacharn, yn ne Sir Gaerfyrddin yw Castell Talacharn ar aber Afon Taf. Adeiladwyd castell ar y safle yn gynnar yn y 12g fel gwrthglawdd yn erbyn tywysogion Deheubarth gan y Normaniaid.
Hanes[golygu | golygu cod]
Fe'i cipiwyd gan Rhys ap Gruffydd yn 1189, ac fe'i dinistriwyd gan Llywelyn ap Iorwerth yn 1215. Mae adfeilion presennol y castell yn dyddio o ddiwedd y 13g, pryd adadeiladwyd caer garreg gan y teulu Eingl-Normanaidd de Brian. Fe'i trawsffurfiwyd yn faenordy cyfforddus gan Syr John Perrot yn chwarter olaf y 16g. Ar ôl marwolaeth Perrot yn 1592, dirywiodd y castell yn gyflym. Fe'i dinistriwyd yn rhannol yn ystod y Rhyfel Cartref.
Cadwraeth[golygu | golygu cod]
Mae'r castell yng ngofal Cadw ac ar agor i'r cyhoedd.