Richard FitzGilbert de Clare, Iarll 1af Hertford

Oddi ar Wicipedia
Richard FitzGilbert de Clare, Iarll 1af Hertford
Ganwyd1094 Edit this on Wikidata
Clare Edit this on Wikidata
Bu farw15 Ebrill 1136 Edit this on Wikidata
Y Fenni Edit this on Wikidata
GalwedigaethArglwyddi'r Mers Edit this on Wikidata
TadGilbert Fitz Richard Edit this on Wikidata
MamAlice de Clermont Edit this on Wikidata
PriodAlice de Meschines Edit this on Wikidata
PlantGilbert de Clare, 1st Earl of Hertford, Roger de Clare, Alice de Tunbridge, Mabel ferch Richard de Clare, Q111442414, Rohese de Clare Edit this on Wikidata
LlinachDe Clare Edit this on Wikidata

Richard FitzGilbert de Clare, Iarll 1af Hertford (109415 Ebrill 1136) oedd mab Gilbert Fitz Richard de Clare ac Alice (Adeliza) de Claremont. Sefydlodd briordy Tonbridge. Roedd arglwyddiaeth Ceredigion ym meddiant Richard.

Roedd gwrthryfel Cymreig yn erbyn Normaniaid de Cymru wedi torri allan. Ar 1 Ionawr 1136 enillodd y Cymry dan arweinyddiaeth Hywel ap Maredudd, arglwydd lleol yng ngorllewin Brycheiniog, fuddugoliaeth drawiadol dros luoedd arglwyddi Normanaidd Gŵyr ar safle rhwng Casllwchwr ac Abertawe. Roedd Richard i ffwrdd o'i arglwyddiaeth ar y pryd. Dychwelodd o'r Mers i dde Cymru yn Ebrill ac yna, gan anwybyddu rhybuddion o'r perygl gan Brian FitzCount o Went Uchaf, gyrrodd yn ei flaen i Geredigion gyda llu bychan. Doedd o ddim wedi mynd ymhell pan gafodd ei ladd mewn ymosodiad o'r cudd gan gwŷr Gwent dan Iorwerth ab Owain a'i frawd Morgan ab Owain, wyrion Caradog ap Gruffudd, mewn coedwig o'r enw Coed Grano, ger Abaty Llanantoni, Y Fenni.

Roedd y newydd am farwolaeth Richard yn sbardun i Owain Gwynedd, fab Gruffudd ap Cynan, brenin Gwynedd, i oresgyn arglwyddiaeth Richard yng Ngheredigion. Mewn cynghair a Gruffudd ap Rhys o Ddeheubarth enillodd fuddugoliaeth ysgubol dros y Normaniaid ym mrwydr Crug Mawr, yn ymyl Aberteifi. Cipiwyd tref Normanaidd Aberteifi a'i llosgi, ac enciliodd Adelize, gweddw Richard, i gastell y dref, a amddiffynwyd yn llwyddiannus gan Robert fitz Martin. Cawsai'r arglwyddes ei hachub o'r diwedd gan Miles o Gaerloyw a arweiniodd lu yno i godi'r gwarchae a'i chymryd i ddiogelwch yn Lloegr.

Olynwyd Richard gan Gilbert de Clare (1115-1153), yr hynaf o'i ddau fab. Olynwyd Gilbert yn ei dro gan yr ail fab, Roger de Clare (1122-1173).

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • John Edward Lloyd, History of Wales from the Earliest Times to the Edwardian Conquest (3ydd argraffiad, Llundain, 1939). Cyfrol II.