Neidio i'r cynnwys

Arglwyddi'r Mers

Oddi ar Wicipedia
Cymru yn Oes y Tywysogion

Arglwyddi'r Mers oedd arglwyddi Normanaidd a reolodd diroedd Y Mers yng Nghymru fu gynt o dan reolaeth y Cymry.

Goresgyniad William Goncwerwr

[golygu | golygu cod]

Ar ôl concro Lloegr, fe roddodd Wiliam I, brenin Lloegr diroedd Seisnig ar y ffin i'r teuluoedd ufydd a ddaeth i Loegr gydag ef gan gynnwys Henffordd. Ar ymweliad i Dyddewi yn 1081, fe adnabyddodd Rhys ap Tewdwr fel brenin Teyrnas Deheubarth. Ar y llaw arall, daliwyd Gruffudd ap Cynan gan Hugh d'Avranches, Iarll 1af Caer (Hugh Tew) a ddaliodd Gruffudd mewn carchar am oleiaf deuddeg mlynedd. Ym Mhowys, daliodd Roger, Iarll Amwythig pedwar o gantrefi.[1]

Ar ôl i William III, brenin Lloegr ddod i bŵer, lladdwyd Rhys ap Tedwr gan Bernard de Neufmarché a daliwyd Teyrnas Brycheiniog. Sawl mis yn ddiweddarach fe aeth Roger, Iarll Amwythig o Bowys i fewn i Deyrnas Ceredigion ac aeth ei fab i sefydlu Castell Penfro. Ym Morgannwg, cymerwyd y tiroedd isel rhwng ogwr ac usk yn rhan gyntaf o goncwest y Normaniaid ond am genedlaethau bu dylanwad arglwydd Morgannwg yn wan ar yr ucheldir. Roedd angen adeiladu sawl castell gostus cyn daeth yr ardal o dan ddylanwad arglwydd Caerdydd. Er i'r Normaniad godi sawl castell yng Nghymru, roedd eu dylanwad ond yn gryf mewn rhai ardaloedd.[1]

Cymry yn ailddal tiroedd

[golygu | golygu cod]

Erbyn marwolaeth Wiliam II, brenin Lloegr yn 1100, fe ddaeth rhan fwyaf o Gymru dan reloaeth Gymreig unwaith eto. Roedd hyn diolch i waith meibion Bleddyn ap Cynfyn, sef Cadwgan, Iorwerth a Maredudd.[1]

Yn 1093 daliwyd gastell mongomery, ac ailenillwyd Gwynedd, Ceredigion a rhan fwyaf o Bowys. Curwyd y Normaniad brycheiniog, Cidwely, Gwent a Gwyr. Yn 1094, diancodd Gruffydd ap Cynan o'r carchar ac ail defydlu'i hun fel brenin Gwynedd.[1]

Fe ddaeth Powys a Deheubarth o dan reloaeth Cadwgan fab Bleddyn ap Cynfyn.[1]

Sefydlu'r Mers yn hirdymor

[golygu | golygu cod]

Yn 1097, anfonodd William II filwyr brenhinol i Gymru a sicrhaodd fod Argwyddiaethau'r Mers yn goroesi. Erbyn teyrnasiaeth Harri I, brenin Lloegr (1100-1135) sefydlwyd ffiniau Pura Wallia a Marchia Wallie a rheolwyd y ffin gan y Cymry. Yn Marchia Wallie, neu y Mers, defnyddiodd Arglwyddi'r Mers Gyfraith y Mers - Cyfraith Cymru yn ôl un diffiniad.[1]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 1.5 Davies, John (2007). Hanes Cymru. Penguin Books.