Cyfraith y Mers

Oddi ar Wicipedia
Cyfraith y Mers
Enghraifft o'r canlynolcyfraith Edit this on Wikidata

Cyfraith y Mers oedd cyfraith y Mers neu'r Gororau yn ystod yr Oesoedd Canol hwyr.

Hanes

Ceir y cyfeiriad swyddogol cyntaf at gyfraith benodol y Mers yng nghymal 56 o Magna Carta 1215, sy'n darllen (Lladin): "os cyfyd anghydfod ... fe'i setlir ... ar gyfer tenementau yn Lloegr yn ôl cyfraith Lloegr, am denementau yng Nghymru yn ôl cyfraith Cymru, am denementau yn y Mers yn ôl cyfraith y Mers."[1] Ailgadarnhawyd hawl y rhai yn y Gororau i sefyll eu prawf dan gyfraith y Mers yng Nghytuniad Aberconwy yn 1277.[1]

Ni chafodd cyfraith y Mers erioed ei chodeiddio ac nid oedd ganddi ffurf ddiffiniol. Fe'i beirniadwyd, cyn hynt Deddfau Cyfreithiau Cymru 1535 a 1542, am ei gyfyngu'n rhannol i'r cof yn unig.[1]

Nodiadau[golygu | golygu cod]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]