Hors

Oddi ar Wicipedia
Hors
Ganwyd5 g Edit this on Wikidata
Bu farw455 Edit this on Wikidata
GalwedigaethHurfilwr, person milwrol Edit this on Wikidata
Blodeuodd5 g Edit this on Wikidata
Swyddbrenin Edit this on Wikidata
TadWihtgils Edit this on Wikidata

Yn ôl traddodiad, brawd Hengist, arweinydd y Sacsoniaid yn amser Gwrtheyrn, oedd Hors (Hen Saesneg Horsa, "ceffyl"). Cyfeirir ato gan amlaf gyda'i frawd.

Ceir hanes Hors a'i frawd yn ymsefydlu yng ngwledydd Prydain a chyflafan Brad y Cyllyll Hirion yn Historia Brittonum Nennius lle fe'i disgrifir fel un o ddisgynyddion y duw Woden. Ceir cyfeiriad moel ato gan yr hanesydd Eingl-Sacsonaidd Beda hefyd.

Cyfeirir at Hors gyda'i frawd mewn un o Drioedd Ynys Prydain fel un o 'Dair Gormes Ynys Prydain':

Tair gormes a ddaeth i'r Ynys hon, ac nid aeth yr un drachefn ["yn ei hôl"].
Un ohonynt ciwdod ["llu"] y Coraniaid, a ddaethant yma yn oes Caswallon fab Beli, ac nid aeth yr un ohonynt drachefn. Ac o Asia yr oeddynt yn hanu.
Ail, Gormes y Gwyddyl Ffichti. Ac nid aeth yr un ohonynt drachefn.
Trydydd, Gormes y Saeson, a Hors a Hengist yn benaduriaid arnynt.[1]

Ni wyddom fawr dim amdano mewn cymhariaeth â'i frawd Hengist ac mae cryn ansicrwydd am ei ddilysrwydd fel cymeriad hanesyddol.

Fel yn achos Hengist a'i ferch Rhonwen (Alys), daeth Hors yn symbol o'r Eingl-Sacsoniaid a'r Saeson i Gymry'r Oesoedd Canol.

Ceir sawl cyfeiriad ato gyda'i frawd yng ngwaith y beirdd a hefyd ar ei ben ei hun. Dyma enghraifft gan Lewys Glyn Cothi mewn cywydd o ganol y 15g sy'n mynegi ei obaith am ddyfodiad y Mab Darogan:

Y sydd a welwyf o Sais
tinbwdr a reto unbais.
Amser Saeson a dderyw,
mudo o Sais, madwys yw,
i'r don rhag ergydion gwns,
ho wŷr Hors, ha ha'r hwrswns.[2]

Cysylltir Hors a phentref Horsted, ger Aylesford, a dywedir bod cromlech Kit's Cotty gerllaw yn nodi bedd Cattegirn, un o arweinwyr y Brythoniaid a laddwyd gan Hors mewn brwydr.[3]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Rachel Bromwich (gol.), Trioedd Ynys Prydein (Caerdydd 1961; arg. newydd 1991). Triawd 36.
  2. Dafydd Johnston (gol.), Gwaith Lewys Glyn Cothi (Caerdydd, 1995), 104.31-36.
  3. Rachel Bromwich, op. cit., tud. 407.