Moliant Cadwallon

Oddi ar Wicipedia

Cerdd Hen Gymraeg yw Moliant Cadwallon sy'n moli'r brenin Cadwallon ap Cadfan (Cadwallon Lawhir), rheolwr teyrnas Gwynedd ar ddechrau'r 7g. Ni cheir enw bardd wrth y gerdd, ond awgrymir mai Afan Ferddig, bardd llys Cadwallon, a'i cyfansoddodd. Mae'r testun sydd wedi goroesi yn anghyflawn ac ar gael mewn llawysgrif o'r 17g. Mae nifer o haneswyr llenyddiaeth Gymraeg yn ei derbyn fel cerdd gynnar ddilys sydd yn ail i'r Gododdin a gwaith Taliesin yn unig o ran ei hynafrwydd.[1]

Cynnwys[golygu | golygu cod]

Mae'r testun yn hynod dywyll ac mae rhannau'n ddyrys iawn i'w dehongli, ond ceir ynddi gyfres o gyfeiriadau at rai o fuddugoliaethau Cadwallon. Cyfeirir at sawl digwyddiad a lle, yn cynnwys Brwydr Catraeth - y cyfeiriad cynharaf ar ôl Y Gododdin ei hun - a "Porth Esgewin" (Porth Sgiwed), sy'n awgrymu fod Cadwallon yn hawlio awdurdod dros dde-ddwyrain Cymru, sef tiriogaeth Gwent.

Un arall o hynodion y gerdd yw'r ffaith mai ynddi y ceir yr enghraifft gynharaf a wyddys o'r gair Cymru.[1] Cyfeirir at Gadwallon fel 'gwron a nodded Cymru,

Draig dinas Cymru Cadwallon.[2]

ac fel cynhaliwr lluoedd Cymru:

Colofn cyrdd Cymru Cadwallon Môn.[2]

Cyfeirir ato yn ymosod ar diriogaeth Elfed, teyrnas Frythonaidd a gipiwyd gan Mersia, ac fe'i disgrifir fel "amddiffyn Cymru" ('Cymru amddiffed'):

O Gymru dygynnau tân yn nhir Elfed
Bei yd fynt heb lurig wen waedled
Rhag unmab Cadfan, Cymru amddiffed.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru, d.g. 'Moliant Cadwallon'.
  2. 2.0 2.1 2.2 'Canu Cadwallon ap Cadfan', tud. 33. Diweddarwyd gan R. Geraint Gruffydd.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • "Canu Cadwallon ap Cadfan", gol. R. Geraint Gruffydd, yn Astudiaethau ar yr Hengerdd, gol. Rachel Bromwich ac R. Brinley Jones (Gwasg Prifysgol Cymru, 1978), tt.25-43. Ceir golygiad o'r testun gyda chyflwyniad, tt.27–34.