Thomas Price (Carnhuanawc)

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Thomas Price
Carnhuanawc.jpg
Portread o Carnhuanawc (tua 1826) gan "Emmanuel Giaconia" (ffugenw; efallai William Jones neu Hugh Hughes) ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan
Ganwyd 2 Hydref 1787 Edit this on Wikidata
Powys, Llanfihangel Bryn Pabuan Edit this on Wikidata
Bu farw 7 Tachwedd 1848 Edit this on Wikidata (61 oed)
Dinasyddiaeth Cymru Edit this on Wikidata
Galwedigaeth Hanesydd, cyfieithydd, cyfieithydd o'r Beibl Edit this on Wikidata

Hanesydd, hynafiaethydd a llenor oedd Thomas Price neu Carnhuanawc (2 Hydref 17877 Tachwedd 1848), a aned ym mhlwyf Llanfihangel Bryn Pabuan, Brycheiniog.

Bywgraffiad[golygu | golygu cod y dudalen]

Roedd 'Carnhuanawc' yn wladgarwr, yn areithiwr huawdl yn y Gymraeg a'r Saesneg ac yn ysgrifennwr ar bynciau hynafiaethol. Dethlir ei fywyd, ei waith a'i weledigaeth gan Gymdeithas Hanes Carnhuanawc.

Roedd yn un o'r ffigurau amlycaf ym mywyd diwylliannol Cymru yn y 19g. Sefydlodd gymdeithasau llenyddol Cymraeg yn Aberhonddu (1823) a'r Fenni (1833). Cafodd ddylanwad mawr ar Augusta Hall, Arglwyddes Llanover, a ddaeth yn noddwraig y bywyd Cymreig yn yr ardal a thrwy Gymru. Cynorthwyodd yr Arglwyddes Charlotte Guest i gyfieithu'r Mabinogi ar gyfer ei gyfrol dylanwadol The Mabinogion. Roedd yn un o sefydlwyr y cylchgrawn hynafiaethol The Cambrian Quarterly Magazine yn ogystal. Helpodd, drwy The Welsh Minstrelsy Society, y bu'n gyfrifol am ei sefydlu, i sicrhau bod llawysgrifau amhrisiadwy o'r Oesoedd Canol yn cael eu diogelu ac yn cael eu hastudio. Cymerodd rhan yng ngwaith y Welsh Manuscripts Society a gorffenodd olygiad Taliesin Williams o ran o waith ei dad Iolo Morganwg a gyhoeddwyd fel The Iolo Manuscripts.

Ei orchest fwyaf oedd ei lyfr Hanes Cymru a Chenedl y Cymry o'r Cynoesoedd hyd at Farwolaeth Llywelyn ap Gruffydd, sef yr ymgais gyntaf i olrhain gwreiddiau a datblygiad y genedl Gymreig mewn modd systematig wyddonol. Fe'i cyhoeddwyd mewn rhannau rhwng 1836 a 1842. Dangosodd i bobl Cymru eu lle yn hanes Ewrop fel etifeddwyr a dehonglwyr llenyddol, cerddorol ac artistig y traddodiad Celtaidd.

Yn ogystal â bod yn hanesydd, roedd Carnhuanawc yn draethodydd, areithiwr, addysgwr, hynafieithydd, ieithydd, arlunydd a cherddor. Roedd yn gyfranwr toreithiog i gylchgronnau addysgiadol a phoblogaidd. Roedd yn ffigwr o bwys yn atgyfodi'r Eisteddfod a defnyddiodd ei llwyfan i hyrwyddo parch ac anogaeth tuag at iaith a thraddodiadau'r Cymry. Dadleuodd dros gael addysg ar bobl lefel, o ysgol y pentref i'r brifysgol, drwy gyfrwng y Gymraeg.

O'i gartref yn Llanfihangel Cwm-du ym Mrycheiniog lle roedd yn offeiriad plwyf, ysgrifennai at ddeallusion ledled Ewrop yn chwilio am wreiddiau Celtaidd ei bobl. Roedd ganddo ddiddordeb yn lles diwylliannol ac ysbrydol cefndryd Celtaidd y Cymry, sef y Llydawyr, a dysgodd Lydaweg. Cydweithiai gyda Le Gonidec i gyfieithu'r Beibl i'r Llydaweg. Roedd hefyd yn gyfaill agos i Villemarque (Kervarker), ffigwr llenyddol o bwys yn Llydaw ar y pryd, a chasglwr a golygydd y gyfrol Barzaz Breiz, ac fe'i gwahoddodd i gyfres o eisteddfodau tra llwyddiannus yn Y Fenni ynghŷd ag i gwrdd â sawl arweinydd diwylliannol a diplomataidd o bwys o Ewrop a thu hwnt.

Gellir dweud i Carnhuanawc roi yn ôl i'r Cymry yr ymdeimlad o'u lle mewn hanes ac yn y byd. Parha ei fywyd i ysbrydoli pobl Cymru i ymladd am ymwybyddiaeth ehangach o'u hunaniaeth ac am barch a defnydd teilwng i'w hiaith a'u diwylliant a'u llenyddiaeth.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

  • An Essay on the Physiognomy and Physiology of the Present Inhabitants of Britain (1829)
  • Hanes Cymru a Chenedl y Cymry o'r Cynoesoedd hyd at Farwolaeth Llywelyn ap Gruffydd (1836–42)
  • The Geographical Progress of Empire and Civilization (1847)
  • Literary Remains (1854–55)

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]