Llanfihangel Cwm Du gyda Bwlch a Chathedin

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Llanfihangel Cwm-du)
Cwmdu and District
Mathcymuned Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirPowys Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.90263°N 3.20025°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000302 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auJames Evans (Ceidwadwyr)
AS/auFay Jones (Ceidwadwyr)
Map

Cymuned ym Mhowys, Cymru, yw Llanfihangel Cwm Du gyda Bwlch a Chathedin (Saesneg: Llanfihangel Cwmdu with Bwlch and Cathedine). Saif y gymuned i'r gogledd o Afon Wysg, rhwng Crucywel ac Aberhonddu, gyda'r briffordd A40 yn arwain trwyddi. Mae'r gymuned yn cynnwys pentrefi Bwlch, Tretŵr a Chwm-du. Er gwaethaf enw'r gymuned, nid yw'n cynnwys pentref Cathedin, sydd yng nghymuned Llangors. Roedd poblogaeth y gymuned yn 2001 yn 918.

Ceir nifer o hynafiaethau o fewn y gymuned, yn cynnwys y ffordd Rufeinig o'r Fenni i Aberhonddu, a gweddillion caer Rufeinig ym Mhen-y-gaer. I'r gogledd o Bwlch mae adfeilion Castell Blaenllynfi, oedd yn eiddo i deulu Picard. Yn ddiweddarach symudodd y teulu i Gwrt Tretŵr, sydd yn awr yng ngofal Cadw.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan James Evans (Ceidwadwyr)[1] ac yn Senedd y DU gan Fay Jones (Ceidwadwyr).[2]

Cyfrifiad 2011[golygu | golygu cod]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Llanfihangel Cwm Du gyda Bwlch a Chathedin (pob oed) (1,026)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llanfihangel Cwm Du gyda Bwlch a Chathedin) (106)
  
10.6%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llanfihangel Cwm Du gyda Bwlch a Chathedin) (584)
  
56.9%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Llanfihangel Cwm Du gyda Bwlch a Chathedin) (139)
  
31.6%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Gwefan Senedd Cymru". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-11-10. Cyrchwyd 2021-12-31.
  2. Gwefan Senedd y DU
  3. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  4. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  5. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.