Barzaz Breiz

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Tudalen o'r Barzaz Breiz

Casgliad o ganeuon a chwedlau gwerin Llydaweg ar gân a cherddoriaeth Lydewig yw'r Barzaz Breiz ("Barddas Llydaw"); fe'u casglwyd gan Théodore Hersart de la Villemarqué a'u cyhoeddi ganddo ym 1839. Yn uchelwr o Ffrancwr ond o dras Lydewig, magwyd Villemarqué yn ardal Plessix yn Nizon, ger Pont-Aven. Ymddiddorai'n fawr yn nhraddodiadau Llydaw ac aeth ati i gasglu chwedlau Llydaweg a chaneuon oddi ar lafar gwlad. Cafodd ei gasgliad ei feirniadu gan rai cenedlaetholwyr Llydewig cyfoes a honnai fod yr awdur wedi eu newid a'u haddasu i ddarllenwyr Ffrangeg, ond mae ei lyfrau nodiadau yn profi dilysrwydd y deunydd.

Yn fwy diweddar (M. Laurent a ddyfynnir gan A.O.H. Jarman[1]), mae darganfyddiadau annibynnol o fersiynnau eraill o rai o'r caneuon ar lafar hefyd yn dystiolaeth i'w gwreiddiau canol oesol.

Cyfrol Villemarqué oedd yr ymgais cyntaf i gasglu a chyhoeddi cerddoriaeth Lydewig draddodiadol, ar wahân i emynau. Cyn hynny, roedd y llenyddiaeth lafar hon ar gael mewn addasiadau Ffrangeg Canol yn unig, yn dyddio o'r 13g ymlaen, ond fel yn achos y chwedlau am Arthur, cafodd y chwedlau eu newid yn sylweddol yn nwylo llenorion anghyfiaith gan adlewyrchu eu diwylliant hwy yn hytrach na diwylliant Llydaw.

Cafodd y Barzaz Breiz gylchrediad eang a bu'n gyfrol ddylanwadol iawn ymhlith Celtigwyr Rhamantaidd. Roedd yr hynafiaethydd Carnhuanawc, cyfaill Villemarqué yng Nghymru, yn edmygu'r gwaith yn fawr. Beth bynnag am ei ffaeleddau - beiau safonau ymchwil yr oes yn bennaf - daeth y Barzaz Breiz â diwylliant gwerin Llydaw i sylw gweddill Ewrop am y tro cyntaf. Un o'r caneuon mwyaf hynafol yn y casgliad yw honno sy'n adrodd chwedl Kêr-Ys ("Cantre'r Gwaelod" y Llydäwyr). Hefyd o ddiddordeb i ddarllenydd Cymraeg yw'r cyswllt rhwng hanes Llydewig Skolan (ceir fersiwn wedi'i recordio gan Anne Auffret[2]) a sawl llawysgrif Cymraeg o'r Canol Oesoedd (yn enwedig Llyfr Du Caerfyrddin, ond hefyd cywydd Chwarae Cnau i'm Llaw gan Dafydd ap Gwilym[1]).

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. 1.0 1.1 Jarman, A.O.H. (1977). "Cerdd Ysgolan". Ysgrifau Beirniadol 10: 51-78.
  2. "Anne_Auffret". https://br.wikipedia.org/wiki/Anne_Auffret.