Pont-Aven

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Pont-Aven
Melin Dŵr yn Pont-Aven, gan Paul Gauguin, 1894
Melin Dŵr yn Pont-Aven, gan Paul Gauguin, 1894
Arfbais Pont-Aven
Arfbais
Gwlad Ffrainc
Rhanbarth Llydaw
Département Finistère
Arrondissement Quimper
Canton Pont-Aven
Intercommunality Concarneau-Cornouaille
Arwynebedd1 28.63 km2 (11.05 mi sg)
Poblogaeth (2008)2 2,929
 • Dwysedd 100/km2 (260/mi sg)
Parth amser CET (UTC+1)
 • Summer (DST) CEST (UTC+2)
INSEE/Postal code 29217 / 29930
Uchder 0–102 m (0–335 ft)

1 Data o Gofrestr Tir Ffrainc, sy'n hepgor llynnoedd, pyllau, rhewlifau > 1 km² (0.386 sq mi neu 247 erw) ac aberoedd yr afonydd.

2 'Poblogaeth heb "gyfri dwbwl": trigolion mwy nag un gymuned (e.e. myfyrwyr a milwyr - cyfrifwyd unwaith yn unig.


Mae Pont-Aven (Ffrangeg: Pont-Aven) yn gymuned yn Departamant Penn-ar-bed (Ffrangeg Finistère), Llydaw. Yn yr erthygl hon, cyfieithir y termau brodorol kumunioù (Llydaweg) a communes (Ffrangeg) i "gymuned" yn Gymraeg.

Poblogaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Population - Municipality code 29217

Ysgol artistiaid Pont-Arven[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae Pont-Aven yn enwog am ei chymdeithas o artistiaid, ysgol Pont-Aven (Fr: École de Pont-Aven), a dechreuodd ymgynnull yn y gymuned yn y 1850au ac a barhaodd hyd  ddechrau'r 20g. Un o’r artistiaid pwysicaf i fod yn rhan o’r ysgol oedd Paul Gauguin a dreuliodd gyfnodau estynedig yn yr ardal ar ddiwedd y 1880au a dechrau'r 1890au.

Ymwelodd y darlunydd Saesneg Randolph Caldecott ym 1880. Gan greu’r lluniau ar gyfer Llyfr Henry Blackburn Folk: An Artistic Tour of Brittany (1880)[1], un o’r teithlyfrau mwyaf poblogaidd y cyfnod.

Ymysg yr artistiaid eraill i fod yn rhan o’r ysgol oedd Robert Wylie, Charles Way, Earl Shinn, Howard Roberts, Benjamin Champney, Frederick Bridgeman a Moses Wright, o’r Unol Daleithiau. Bu’r peintwyr Ffrengig William Bouguereau, Louis-Nicolas Cabat a Paul Sébillot yn aros yn y pentref dros gyfnodau’r haf. Ymysg yr artistiaid eraill o wledydd tramor bu Herman van den Anker o’r Iseldiroedd, Augustus Burke o’r Iwerddon a Paul Peel o Ganada.

Artistiaid eraill a arhosodd gyda Gauguin ym Mhensiwn Gloanec ym Mhont-Aven oedd Émile Bernard, Charles Filiger, Meijer de Haan, Charles Laval, Robert Bevan, Roderic O'Conor, Émile Schuffenecker, Armand Séguin a Władysław Ślewiński.

Artistiaid Ysgol Pont-Aven[golygu | golygu cod y dudalen]

Wedi'i drefnu yn ôl blwyddyn cyraedd:

Galeri darluniau o Ysgol Pont-Aven[golygu | golygu cod y dudalen]

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:


Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cymunedau Penn-ar-Bed

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:


Flag of Brittany (Gwenn ha du).svg Eginyn erthygl sydd uchod am Lydaw. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.