Thomas Phillips (awdur)

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Thomas Phillips
Thomas Phillips Dadd.jpg
Ganwyd 1801 Edit this on Wikidata
Llanelli Edit this on Wikidata
Bu farw 26 Mai 1867 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Cymru Cymru
Galwedigaeth bargyfreithiwr, ysgrifennwr Edit this on Wikidata

Roedd Syr Thomas Phillips (1801- 26 Mai 1867) yn gyfreithiwr, gwleidydd a dyn busnes a wasanaethodd fel Maer Casnewydd ar adeg Terfysg Casnewydd ym 1839. Roedd hefyd yn amddiffynnwr o'r iaith Gymraeg ac addysg Gymreig.[1]

Cefndir[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganwyd Phillips yn Llanelli, Sir Frycheiniog yn fab hynaf i Thomas Phillips a'i wraig, Ann, (née James) [2]

Gyrfa[golygu | golygu cod y dudalen]

Aeth Phillips i bractis cyfreithiol Thomas Prothero fel clerc erthyglau. Wedi cyflawni ei erthyglau a dod yn gyfreithiwr hyfforddedig daeth yn bartner yn y busnes ym 1824. Yn ystod etholiad cyffredinol 1820 bu'n gweithio fel ymgynghorydd cyfreithiol i Syr Charles Gould Morgan, yr ymgeisydd Ceidwadol.[3] Bu Philips yn amlwg ym mywyd cyhoeddus Casnewydd ac ym mis Tachwedd 1838 daeth yn Faer y dref. Roedd yn tynnu i derfyn ei flwyddyn o wasanaeth fel Maer pan dechreuodd Terfysg y Siartwyr a'r ymosodiad ar Westy'r Watergate ar 4 Tachwedd 1839. Cafodd Phillips ei anafu yn y cythrwfl ac fe'i wahoddwyd gan y Frenhines Victoria i aros yng Nghastell Windsor i ymadfer o'i glwyfau. Ar 9fed Rhagfyr cafodd ei urddo'n farchog gan y Frenhines.[4] Ym 1840 fe'i gwnaed yn rhyddfreiniwr Dinas Llundain.[5]

Gan nad oedd bod yn gyfreithiwr bach trefol yn swydd addas i farchog y goron, rhoddodd Phillips heibio i'w bractis ym 1840 gan fynd i'r Deml Ganol i ddyfod yn fargyfreithiwr. Cafodd ei alw i'r bar ym 1842 gan arbenigo fel bargyfreithiwr achosion y Llys Siawnsri (achosion yn ymwneud â busnes, eiddo tir, ewyllysiau ac ati).[6] Fe'i dyrchafwyd yn Gwnsler y Frenhines [7] ac yn Feinciwr y Deml Ganol ym 1865. Cafodd gryn gyfoeth o'i waith cyfreithiol a phrynodd fwyngloddiau yn Ne Cymru.[2]

Cefnogaeth i faes addysg[golygu | golygu cod y dudalen]

James Davies, Prifathro ysgol Y Dyfawden, Sir Fynwy

Chwaraeodd Phillips ran fawr yn llwyddiant Coleg Crist, Aberhonddu; Coleg y Drindod, Caerfyrddin ac Ysgol Howells, Llandaf. Roedd yn aelod gweithgar o gyrff llywodraethu Coleg y Brenin, Llundain, a Sefydliad yr Eglwys. Gwasanaethodd fel llywydd cyngor Cymdeithas y Celfyddydau. Ym 1848 daeth yn aelod o'r Gymdeithas Genedlaethol, y corff oedd yn gyfrifol am sefydlu'r Ysgolion Cenedlaethol (Ysgolion i blant Eglwys Loegr). Sefydlodd ysgol yng Nghasnewydd ar gyfer addysgu glowyr oedd wedi methu derbyn addysg yn eu plentyndod.[8]

Teimlai Phillips bod y llyfrau gleision, (adroddiadau'r comisiynwyr ar addysg yng Nghymru, a gyhoeddwyd ym 1847) yn gwneud cam difrifol ar amodau cymdeithasol yng Nghymru, ac ym 1849, ar ôl teithio ledled Cymru i gasglu deunydd, cynhyrchodd ymateb manwl iddynt:Wales: the language, social condition, moral character, and religious opinions of the people, considered in their relation to education: with some account of the provision made for education in other parts of the kingdom. [9] Y flwyddyn ganlynol cyhoeddodd llyfr o'r enw The Life of James Davies, a Village Schoolmaster [10] bywgraffiad i athro gwledig yn Sir Fynwy a oedd hefyd yn rhoi enghraifft o ba mor ymroddedig oedd athrawon Cymru i'r gwaith o addysgu plant o gefndiroedd difreintiedig.

Marwolaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Ar ôl annerch pwyllgor o Dŷ’r Cyffredin ym 1867, cafodd Phillips ei daro â pharlys a bu farw bum niwrnod yn ddiweddarach yn ei gartref yn Llundain.[11] Claddwyd ei weddillion ym mynwent eglwys St Helen, Llanelen, Sir Fynwy.[12] Roedd yn ddibriod, ac etifeddwyd ei ffortiwn gan fab ei chwaer, Thomas Phillips Price, a wasanaethodd fel AS Gogledd Sir Fynwy rhwng 1885 a 1895.[13]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Thomas Phillips - Y Bywgraffiadur Cymreig
  2. 2.0 2.1 Thomas Phillips - Bywgraffiadur Rhydychen
  3. "Monmouthshire | History of Parliament Online". www.historyofparliamentonline.org. Cyrchwyd 2020-03-29.
  4. "SIR THOMAS PHILLIPS - The Glamorgan Monmouth and Brecon Gazette and Merthyr Guardian". William Mallalieu. 1839-12-14. Cyrchwyd 2020-03-29.
  5. "Notitle - Monmouthshire Merlin". Charles Hough. 1840-03-07. Cyrchwyd 2020-03-29.
  6. "Chancery Division of the High Court". GOV.UK. Cyrchwyd 2020-03-29.
  7. "Notitle - Monmouthshire Merlin". Charles Hough. 1865-02-11. Cyrchwyd 2020-03-29.
  8. "Visit to the Examination at Court y Bella SchooI - Monmouthshire Merlin". Charles Hough. 1844-08-24. Cyrchwyd 2020-03-29.
  9. Wales: The Language, Social Condition, Moral Character, and Religious Opinions of the People, Considered in Their Relation to Education: Withsome Account of the Provsion Made for Education in Other Parts of the Kingdom ar Google Books adalwyd 29 Mawrth 2020
  10. Phillips, Thomas (1850). The life of James Davies, a village schoolmaster. Internet Archive: Saville & Edwards, Covent Garden.
  11. "THE LATE SIR THOMAS PHILLIPS - The Cardiff and Merthyr Guardian Glamorgan Monmouth and Brecon Gazette". Henry Webber. 1867-05-31. Cyrchwyd 2020-03-29.
  12. "FUNERALOFTHELATESIRTHOMASPHILLIPS - County Observer and Monmouthshire Central Advertiser Abergavenny and Raglan Herald Usk and Pontypool Messenger and Chepstow Argus". James Henry Clark. 1867-06-08. Cyrchwyd 2020-03-29.
  13. "The Welsh Members - The Cardiff Times". David Duncan and William Ward. 1892-08-06. Cyrchwyd 2020-03-29.